Newyddion     04/07/2024

Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad!

Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad!

Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Sue Northcott fel Cadeirydd newydd Ymddiriedolwyr yr Elusen. Mae Sue yn cymryd y rôl gan Clive Wolfendale sydd wedi cwblhau tymor o dair blynedd fel Cadeirydd cyntaf Adferiad.

Mae Sue, sy’n bencampwr Amser i Newid Cymru, wedi rhannu ei stori bersonol o fywyd gyda chyflwr iechyd meddwl difrifol ar nifer o achlysuron i helpu i herio ac i fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl difrifol. Mae Sue wedi bod yn ddigon caredig i rannu ychydig o’i stori isod:

Fy enw i ydi Sue Northcott, ac fe hoffwn gyflwyno fy hun. Rwy’n meddwl bod cael fy ngeni mewn tŷ cyngor yn Sandfields, Port Talbot â llawer i wneud gyda datblygiad fy nghydwybod cymdeithasol, sydd wedi fy arwain yn fy mywyd.

Gweithiais mewn TGCh fel gweinyddwr cronfa ddata yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, cyn cymryd ymddeoliad cynnar yn 2024. Roeddwn yn weithredol fel undebwr llafur am dros 30 mlynedd. Roedd hyn yn cynnwys bod yn gadeirydd cangen yn ystod preifateiddio cyntaf asiantaeth llywodraethol, a chefnogi fy aelodau yn y sector breifat. Rwyf wedi cyfranogi yn fy nghymuned leol ers blynyddoedd maith, ac wedi gwirfoddoli i bob math o sefydliadau. Gwasanaethais fel Cynghorydd Tref am 17 mlynedd, yn cynnwys blwyddyn fel Maer Pontardawe. Roedd hyn yn cynnwys cadeirio holl gyfarfodydd y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor yn y gymuned a chynrychioli fy nghymuned yn y byd ehangach. Mae gennyf gymwysterau Lefel 4 a 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli, ac wedi eu caffael fel myfyriwr aeddfed (iawn).

Rwy’n fam i ddau, a Mamgu i un, ac wedi dod yn weddw yn ddiweddar. Ar hyn o bryd, rwy’n gwasanaethu’r Eglwys yng Nghymru, yn rhan amser ac yn ddi-dâl, fel offeiriad yn y rôl o Gurad Cynorthwyol yn Ardal Weinidogaeth Cwmtawe, a derbyniais fy ngradd gyntaf, Baglor mewn Diwinyddiaeth, eleni. Rwy’n athrawes myfyrdod BSM cymwys.

Rwy’n oroeswr hunanladdiad ac yn dioddef o orbryder difrifol ac iselder clinigol cylchol. Yn ddiweddar rwyf wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gyda dyspracsia ac ADHD tybiedig, sy’n egluro llawer.

Deuthum yn Bencampwr Iechyd Meddwl Amser i Newid Cymru yn 2015, wedi i mi ddarganfod Hafal yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Rwyf wedi rhannu fy stori wyneb yn wyneb, drwy ysgrifennu blogiau, ac ar y radio a’r teledu. Mae fy rôl hefyd wedi arwain i mi sefydlu Grŵp Rhyngweithio Iechyd Meddwl Staff y DVLA, gan ei gadeirio hyd at fy ymddeoliad.

Roedd yn fraint cael y cynnig i ymuno â bwrdd Hafal fel aelod-ymddiriedolwr am nifer o flynyddoedd ac wedi parhau ar fwrdd Arferiad yn ystod yr uniad diweddar. Gobeithiaf allu defnyddio fy mhrofiad helaeth yn fy rôl newydd fel Cadeirydd Adferiad, a helpu i adnewyddu ffocws ein sefydliad ar ei aelodau a defnyddwyr gwasanaeth, tra’n sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyflogwr cefnogol o ddewis, ac yn rym ymgyrchol.

 

Ymunodd Prif Weithredwr Adferiad, Alun Thomas gydag aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen i ganmol y Cadeirydd sy’n ymadael, Clive Wolfendale.

“Cymerodd Clive y rôl fel Cadeirydd cyntaf Adferiad ar adeg yr uno, gan gefnogi’r tîm cyfan trwy’r trawsnewidiad a ddigwyddodd yn ystod y pandemig Covid-19. Roedd ymrwymiad, egni, a goruchwyliaeth adeiladol Clive yn allweddol i’n hesblygiad llwyddiannus i fod yn un o’r elusennau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd Clive wastad eisiau i’r elusennau oedd yn uno gael dyfodol diogel a sicr, ac mae ei waith fel cyn Prif Swyddog Gweithredol ac fel Cadeirydd yn ddiweddarach wedi sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Bydd Clive yn cymryd rôl fel Is-Gadeirydd ochr yn ochr â chyn Gadeirydd WCADA Howard Jones”

Ychwanegodd Clive Wolfendale, fel Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr sy’n ymddeol,

“Rwyf mor falch fod Sue’n dymuno cymryd yr awennau fel Cadeirydd Adferiad. Mae ei phrofiadau personol, ei gwerthoedd, a’i hymrwymiad i’n cenhadaeth yn hynod, ac rwy’n teimlo mor falch y byddwn yn cael ein harwain gan rhywun sydd wedi profi cymaint o’r heriau mae ein cleientiaid yn eu hwynebu bob dydd. Rwy’n sicr y bydd Sue yn mynd ag Adferiad ymlaen i uchelfannau newydd ac yn galluogi’r tîm i gyflawni disgwyliadau uchelgeisiol y Bwrdd.”

Bydd Sue yn cychwyn yn y rôl o gyfarfod cyffredinol blynyddol mis Medi 2024.