Ysgrifenwyd gan Chloe Harrison, Swyddog Ymchwil a Gwerthuso, Adferiad Recovery.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae technolegau deallusrwydd artiffisial wedi dod yn rhan o’n bywydau pob dydd ac wedi bod yn ddim llai na thrawsnewidiol. O beiriannau chwilio i destun rhagfynegol a chyrn sain clyfar, mae deallusrwydd artiffisial wedi integreiddio ei hun yn ddidrafferth i wead ein bodolaeth. Yn 2022, fe lansiodd ymddangosiad technoleg newydd fel ChatGTP ddeallusrwydd artiffisial o gylchoedd y selogion technoleg i’r brif-ffrwd, gan gadarnhau ei statws fel rhan anhepgor o’n bywydau. Wrth symud ymlaen i 2024, mae’r integreiddio wedi dod mor gynhenid nes ei fod yn cael ei ystyried yn naturiol i ofyn i Alexa i chwarae cerddoriaeth, neu i ofyn i Google Assistant i wirio’r sgorau pêl-droed. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y cynnydd mewn technolegau deallusrwydd artiffisial yn arafu yn y dyfodol agos, a’r cwestiwn mae angen i ni ei ofyn erbyn hyn yw, nid os y gall deallusrwydd artiffisial helpu ond, yn hytrach, sut allwn ni ei ddefnyddio’n gyfrifol, yn enwedig mewn sectorau sydd mor hanfodol â gofal iechyd meddwl.
Yn y maes gofal iechyd, mae deallusrwydd artiffisial wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan chwyldroi tasgau megis dadansoddi delweddau meddygol a monitro cleifion mewn ‘wardiau rhithiol’. Tra mae’r cymwysiadau hyn wedi dod â buddion megis lleihau’r amseroedd disgwyl a gwell gofal i gleifion, mae gofal iechyd meddwl yn dod â heriau unigryw. Dengys ymchwil diweddar fod clinigwyr yn arddangos petrusder ynghylch mabwysiadu offer deallusrwydd artiffisial oherwydd pryderon ynghylch ansawdd, rheoleiddio, atebolrwydd cyfreithiol, ac ystyriaethau moesegol.
Mae integreiddio deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd yn gofyn am ymagwedd gynnil, gan ystyried sensitifrwydd gwybodaeth a rennir a bregusrwydd defnyddwyr gwasanaeth. ‘Rydym ni (Adferiad), mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Abertawe, Southampton, a Nottingham Trent, gyda chyllid gan y British Academy a’r Leverhulme Trust, wedi gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth a staff am eu pryderon o ran y defnydd posibl o systemau deallusrwydd artiffisial mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Nodwyd pryderon allweddol o ganlyniad i ymgysylltu gyda dros 100 o ddefnyddwyr gwasanaeth drwy arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws. Roedd pobl yn pryderu ynghylch popeth, o fynediad i’r we a phryderon parthed data a chyfrinachedd, i’r perygl o golli’r elfen honno sydd mor hanfodol mewn gofal iechyd meddwl. Ond, roedd hefyd optimistiaeth ynghylch y manteision y gallai deallusrwydd artiffisial eu cynnig, megis lleihau amseroedd disgwyl a chynnig mwy o ddewis i’r rhai hynny fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad gyda pheiriant yn hytrach na pherson.
Y consensws? Mae lle i deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd meddwl, ond i gefnogi gwasanaethau yn hytrach na chymryd eu lle. Gallai ein deallusrwydd artiffisial helpu i symleiddio prosesau neu i ddarparu cyngor ac arweiniad arwyddbostio, gan adael yr elfen bersonol ble mae ei angen fwyaf. Wrth i deallusrwydd artiffisial symud yn ei flaen ar ruthr mae angen i ni gadw i fyny, nid yn unig gyda’r dechnoleg, ond hefyd gyda’r drafodaeth ynghylch sut i’w ddefnyddio’n ddoeth. Mae’n hanfodol sicrhau fod offer deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd meddwl yn ddiogel, yn addas, ac wedi ei siapio gan y rhai fydd yn ei ddefnyddio. Mae’r siwrnai ymlaen ynghylch mwy nac arloesi yn unig; mae’n ymwneud â sicrhau bod y datblygiadau hyn yn gweithredu yn ddiogel ac yn foesegol i ni i gyd.