Mae angen cefnogi cleifion yn yr ysbyty.
Edwch ati i ddarllen adroddiad newydd GIG Cymru Making Days Count – National Review of Patients Cared for in Secure Mental Health Hospitals – sydd yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd yn pryderi am bobl ag afiechyd meddwl difrifol.
Mae’n adroddiad hir sydd yn cynnig tystiolaeth werthfawr a fydd yn sicr yn cael ei hystyried fel rhan o blogiau’r dyfodol. Ar y cyfan, mae’n cynnig darlun o ofal ysbyty na sydd yn syndod ac ni fydd yn arwain at benawdau oherwydd nid yw’n sôn am greulondeb neu gam-drin amlwg – er bod tystiolaeth bod rhai o’r ysbytai yma yn parhau’n llefydd dychrynllyd a pheryglus. Mae rhai llwyddiannau gan fod llawer o’r gwaith uwchraddio yn cael ei wneud – er enghraifft, bydd yna ddiwedd cyn hir ar welyau heb gyfleusterau en suite.
Ond mae’r adroddiad dal yn peri rhwystredigaeth i mi. Er mwyn deall pam, gadewch i mi nodi dau ddarn o dystiolaeth yn yr adroddiad …
- Canran y cleifion o Gymru mewn ysbytai diogel canolig y GIG sydd wedi mynychu gweithgareddau a gynlluniwyd ar adeg cynnal yr archwiliad: 3% – dim ond 1 ym mhob 30
- Y pwysau y mae cleifion o Gymru ar gyfartaledd yn magu (pob ysbyty diogel) ar ôl mynd i’r ysbyty: 6.2 kg – tua un stôn (mae’n 2.5 stôn ar gyfer cleifion mewn ysbytai diogel uchel)
Ydych chi’n gweld ble wyf am fynd â hyn?
Nid yw hyn swnio fel gwasanaeth sydd yn therapiwtig. Yn wir, mae’n swnio’n hollol wahanol – fel lle diflas na sydd yn ysgogi ac nid oes llawer i’w wneud a bydd y diogi – sydd yn cael ei orfodi arnoch – yn niweidio eich iechyd corfforol, a hynny i’r pwynt na fyddwch o bosib yn byw cyn hired.
Mae lleisiau cleifion yn cael eu clywed yn yr adroddiad ond nid ydynt yn cwyno rhyw lawer am y staff. Ond i fod yn onest, byddem yn hapus cael gwybod fod y staff ar eu hôl hwy yn fwy aml ac yn eu annog i fod yn fwy gweithgar yn feddyliol a’n gorfforol – mae hyn yn golygu helpu cleifion i wella yn hytrach nag aros iddynt wella.
Mae rhai o’r argymhellion yn yr adroddiad yn weddol ond nid wyf yn gwely yr hyn yr am weld – chwyldro o ran gofal ysbyty sydd yn troi’r gwasanaeth yn wasanaeth deinamig na sydd yn opsiwn hawdd (ar gyfer cleifion a staff) ond un sydd yn herio cleifion i ddatblygu eu hadferiad a gwobrwyo staff gyda’r boddhad o sicrhau lwyddiant.
A yw’n hawdd dweud hyn? Wel, dyma rai syniadau ymarferol sydd gen i er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd:
- Dylid ymgysylltu staff a gwirfoddolwyr sydd â phrofiad o fyw gyda’r afiechyd ar bob lefel – fel therapyddion, rheolwyr a chomisiynwyr
- Nodi’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt – a chyflwyno hyn i fannau eraill yn systematig
- Cymharu canlyniadau, a chostau’r GIG â darparwyr eraill – a chomisiynu’r hyn sydd yn llwyddo, nid oes ots pwy sy’n ei ddarparu
- Datblygu dewis go iawn i gleifion – gan gynnwys pa ysbyty y maent yn mynd iddi
Ac ni allaf ddod i’r diwedd heb eich atgoffa nad yw adroddiad y GIG yn cynnig darlun llawn: peidiwch byth ag anghofio’r sawl sydd yn dioddef mewn carchardai gyda seicosis a symptomau nychus eraill o afiechyd meddwl difrifol. Mae’r sgandal yn parhau.
Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl sydd wedi ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am fwy na 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd peth o’r driniaeth honno’n yn hynod annymunol ac wedi ei dychryn. Mae Jo yn ymgyrchu o blaid Deddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi bargen deg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.