Hoffai bawb yn Adferiad Recovery ddiolch o galon i drefnwyr Cynhadledd Llyfrau Comics a Chwarae Gemau Cyfrifiadurol (SCGC) 2022 am gasglu swm anhygoel o £4239.84 ar gyfer Hafal fel rhan o’u digwyddiad diweddar.
Eleni, roedd SCGC wedi dewis Hafal – sydd nawr yn rhan o Adferiad Recovery – fel Elusen y Flwyddyn, lle y mae canran o’r gwerthiant sydd yn dod o werthu’r tocynnau wedi ei gyfrannu yn syth i Hafal, yn ogystal ag arian a gasglwyd fel rhan o arwerthiant, tombola a chasglu arian gyda bwcedi… lle’r oedd 15 ‘storm trooper’ yn gorymdeithio o gwmpas Abertawe er mwyn casglu arian!
Roedd Adferiad Recovery hefyd yn falch cael ymuno yn yr hwyl dros y penwythnos, gyda bwrdd yno yn cynnig taflenni gwybodaeth, llyfrynnau a rhoddion am ddim ac roedd gwirfoddolwyr yno er mwyn siarad am yr elusen a’r gwasanaethau y mae’n darparu ar draws Cymru.
Roedd y Gynhadledd wedi ei chynnal yn Arena newydd Abertawe yn ystod y penwythnos 9-10 Ebrill ac yn cynnwys detholiad gwych o westeion ac arddangosfeydd. Roedd yna gystadlaethau hefyd wedi eu cynnal gyda cherddoriaeth fyw, a phaneli yn cael eu harwain gan westeion a chymunedau ar hyd a lled y penwythnos.
Dywedodd Prif Weithredwr Adferiad Recovery Alun Thomas: “Roeddem wrth ein bodd yn derbyn cyfraniad mor hael gan drefnwyr SCGC 2022 yn dilyn y digwyddiad hynod lwyddiannus hwn.
“Mae’r arian hwn yn ein caniatáu ni ddarparu i rai o’r bobl mwyaf bregus yn ein cymuned y cymorth arbenigol sydd angen arnynt ac yn sicrhau bod Adferiad yn medru aros gyda nhw bob cam o’r ffordd. Mae pob punt sydd yn cael ei chasglu yn mynd i helpu cefnogi pobl sydd yn delio ag afiechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, caethiwed neu anghenion eraill sydd angen cymorth.
“I bawb a oedd wedi prynu tocyn neu wedi rhoi ychydig o newid mewn bwced ac i’r tîm gwych o drefnwyr SCGC a oedd wedi gwneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant – diolch yn fawr iawn gan bawb yma yn Adferiad Recovery.”