Mae Adferiad Recovery wedi ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd sydd yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ac mae hefyd yn cynorthwyo pobl sydd â phrofiad o fyw ag afiechyd meddwl i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws fel eu bod yn medru gwneud cyfraniad.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd meddwl yn dilyn disgrifiad y Ganolfan at gyfer Iechyd Meddwl o ‘rwystr triphlyg’ anghydraddoldeb iechyd meddwl.
Mae Adferiad Recovery wedi amlygu profiad lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru gan awgrymu y dylid gosod blaenoriaeth ar ymchwilio profiad pobl Dduon sydd wedi eu cadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae Adferiad Recovery hefyd yn pryderi bod y cymorth ar gyfer y cleifion mwyaf bregus mewn peryg o ddod yn “Sinderela” o fewn gwasanaethau iechyd meddwl gan fod y drafodaeth wedi symud tuag at lesiant ac ataliaeth.
Mae modd i chi ddarllen ymateb llawn Adferiad Recovery yma.