Jo's Blog Archives - Adferiad Recovery Cymru

Blwyddyn Newydd Dda gan Jo!
Dim ond neges fer i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Galwais draw at fy nghyfeillion yn Adferiad Recovery bythefnos yn ôl, i wneud fideo am ein syniadau ar gyfer deddfwriaeth iechyd meddwl newydd: byddwn yn gosod dolen iddo yn ein cyfryngau cymdeithasol maes o law (a does dim angen tanysgrifiad i Netflix!).

Roedd gennyf ddiddordeb hefyd mewn clywed am ymgyrch 2023 Adferiad Recovery ar yr argyfwng costau byw i’w lansio yn y gwanwyn: byddaf yn sicr o ymuno a gobeithio y byddwch chwithau hefyd. Mae’r ymgyrch yn dal yn y cam cynllunio ond roeddwn yn falch o ddarganfod y byddant yn cymryd ymagwedd ymarferol a phositif iawn yn hytrach na siarad am yr ochr dywyll yn unig. Does dim prinder o straeon arswydus am y broblem yma, ond beth sydd ei angen yw gwybodaeth fanwl gywir, cyngor cadarn a chydgefnogaeth fydd yn helpu pobl i oroesi’r misoedd nesaf yn ddiogel ac yn iach – ac heb fynd i banig neu roi fyny ar eu llwybr i adferiad ac i well bywyd.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn rhoi pwysau ar lywodraethau y Deyrnas Unedig a Chymru i weithredu i gefnogi ein grŵp cleientiaid: gallwch weld mwy am hyn yn yr erthygl ddiweddar yn y Western Mail gan Alun Thomas, y Prif Weithredwr.

Yn y cyfamser, os yw pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed – neu eu teuluoedd neu ofalwyr – yn poeni am hyn, does dim angen i chi ddisgwyl nes bydd yr ymgyrch yn cychwyn. Cysylltwch â’ch gwasanaeth Adferiad Recovery wnaiff eich helpu (neu eich cyfeirio at rhywun all eich helpu), ac am wybodaeth benodol ar faterion ariannol, gallwch hefyd fynd yn uniongyrchol at ein Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian.

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a gafodd ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; gyda pheth o’r driniaeth honno yn hynod annymunol ac hyd yn oed yn frawychus. Mae Jo yn ymgyrchu dros Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – Deddf sy’n rhoi gwell chwarae teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

The post Blwyddyn Newydd Dda gan Jo! appeared first on Adferiad Recovery Cymru.

Cylch Ofn
Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar y Ddeddf Iechyd Meddwl ers blynyddoedd maith, ac un peth sydd ddim i weld yn newid yw profiad pobl ddu sydd â phroblemau iechyd meddwl…

Gadewch i mi fynd â chi yn ôl 20 mlynedd i gyhoeddiad Breaking the Circles of Fear gan beth oedd yn cael ei adnabod ar y pryd yn ôl yr enw The Sainsbury Centre for Mental Health. Roedd yr adroddiad synhwyrol yma yn gosod allan y syniadau ar gyfer sut i dorri’r “Cylch Ofn” sy’n disgrifio sut mae pobl ddu – yn enwedig dynion du – yn cael eu gorgynrychioli’n ddychrynllyd yn yr ystadegau am y rhai sy’n destun gorfodaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ond eto maent yn cael eu tangynrychioli ymhlith y rhai hynny sy’n ceisio am gymorth gan wasanaethau iechyd meddwl cymunedol.

Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth ond, yn syml, mae’n mynd rhywbeth fel hyn: mae amharodrwydd pobl ddu i geisio am gymorth oherwydd y gwahaniaethu hanesyddol (ac weithiau presennol) gan wasanaethau iechyd meddwl; y canlyniad yw fod eu salwch yn gwaethygu oherwydd nad oes unrhyw driniaeth neu gymorth yn ei le, ac i lawer y cyswllt cyntaf maent yn ei gael gyda’r gwasanaethau yw pan mae gorfodaeth yn cael ei ddefnyddio – ac nid yw’n syndod fod hyn yn atgyfnerthu’r ofn, ac felly mae’r Cylch Ofn yn parhau.

Gwaetha’r modd, mae’n ymddangos bod hanes wedi sefyll yn stond, oherwydd mae’r Cylch Ofn yn dal i fodoli. Sut all hyn fod pan mae pawb wedi cael y neges flynyddoedd yn ôl ac, i fod yn deg, mae llawer o gefnogaeth o blaid newid? Sut allwn ni dorri’r cylch yma hefyd – y cylch o fwriadau da sy’n cael ei ddilyn gan fethiant a dychwelyd yn ôl i’r cychwyn?

Wel, dydi’r ateb ddim gen i, ond credaf fy mod yn gwybod am rhywun sydd â’r ateb…

Yn fy nhystiolaeth i ddrafft y Bil Iechyd Meddwl newydd, cynigiais fod y bobl yn gofyn i’r rhai hynny a effeithir yn uniongyrchol – pobl ddu sydd wedi cael eu cadw o dan y Ddeddf. Nid yw hwn yn nifer fawr o bobl yng Nghymru (sy’n adlewyrchiad o’r boblogaeth yng Nghymru, ond mae’n dal i fod yn anghymesur, yn unol â’r esboniad uchod). Byddai’n syml i siarad gyda phob un o’r rhai a effeithir sydd yn fodlon siarad – mae rhai dwsinau wedi cael eu cadw yn y blynyddoedd diwethaf. ‘Dwi ddim yn golygu gyrru ffurflen iddynt i’w llenwi – rwy’n golygu gofyn iddynt os ydynt hwy a’u teuluoedd yn barod i eistedd i lawr ac i drafod eu profiad.

Gallasai siarad yn barchus gyda’r gwir arbenigwyr hyn ein goleuo ni i gyd ynghylch y rhai hynny â’r problemau mwyaf difrifol ac arwain y ffordd tuag at wella profiad ehangach pobl ddu yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym i gyd yn gwybod fod y mater hwn am fwy na’r Ddeddf Iechyd Meddwl, ond mae’r cleifion a’r teuluoedd hyn wedi ei weld i gyd ac mae’n amser i glywed eu stori a’u syniadau hwy i dorri’r cylch.

Yn seiliedig ar y ddeialog honno, efallai, o’r diwedd, y gwnawn:

Ddatblygu model gwasanaeth newydd ar gyfer pobl ddu sy’n adlewyrchu eu cymuned o ran staffio, rheolaeth, a diwylliant.

Drawsnewid profiad cleifion du gyda chefnogaeth sy’n seiliedig ar adferiad yn hytrach na gorfodaeth arferol.

Ond, os gwelwch yn dda, siaradwch gyda’r arbenigwyr yn gyntaf!

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a gafodd ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; gyda pheth o’r driniaeth honno yn hynod annymunol ac hyd yn oed yn frawychus. Mae Jo yn ymgyrchu dros Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – Deddf sy’n rhoi gwell chwarae teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

The post Cylch Ofn appeared first on Adferiad Recovery Cymru.

Y Mesur Iechyd Meddwl – Fy Ymateb i
Rwyf wedi cyhoeddi fy ymateb i’r Cyd-Bwyllgor ar Ddrafft y Bil Iechyd Meddwl.

Gobeithiaf y byddwch yn cytuno fy mod wedi bod yn ofalus er mwyn sicrhau fod hyn yn adlewyrchu yr hyn mae cleifion a gofalwyr wedi ei ddweud wrthyf dros y blynyddoedd, ac yn enwedig ers i mi dderbyn her Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig pan gytunodd i ddigwygio’r Ddeddf bresennol.

Ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi fod Adferiad Recovery wedi cymeradwyo fy ymateb yn llawn ac maent yn cytuno ei fod yn adlewyrchu barn eu haelodaeth dorfol – nid yw hyn yn syndod oherwydd mai nhw yw’r bobl rwyf wedi bod yn sgwrsio gyda hwy wrth gwrs! Ond mae’n wych ein bod yn gallu uno ar un safbwynt eglur.

Nid hyn yw diwedd yr her wrth gwrs – mae angen i ni argyhoeddi’r Pwyllgor yma ynghylch yr hyn rydym yn sefyll drosto, ond a fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar y Pwyllgor? Ac wedyn mae Llywodraeth Cymru: fyddan nhw’n rhagweithiol neu wnawn nhw gytuno gyda beth bynnag y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei benderfynu?

Yn y cyfamser, gwnaeth i mi feddwl efallai y byddai rhai pobl yn hoffi gwybod yn union beth sydd yn y Bil drafft. Gallwch ei ddarllen wrth gwrs, ond os fyddai’n well gennych ddarllen rhywbeth sy’n llawer byrach, cymerwch olwg ar ‘Jo’s 10 Point Guide to the Draft Mental Health Bill 2022’

Rwyf yn hyn am y tymor hir ac yn eich gwahodd chi i ymuno gyda mi. Gwnaf eich diweddaru ac fe awn ymlaen gyda hyn hyd y diwedd!

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a gafodd ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; gyda pheth o’r driniaeth honno yn hynod annymunol ac hyd yn oed yn frawychus. Mae Jo yn ymgyrchu dros Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – Deddf sy’n rhoi gwell chwarae teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

The post Y Mesur Iechyd Meddwl – Fy Ymateb i appeared first on Adferiad Recovery Cymru.

Blog Jo: Mesur Iechyd Meddwl Cymru
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn medru defnyddio’r pwerau sydd eisoes ganddi

Felly, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r Deddf Iechyd Meddwl yn bwrw rhagddynt: maent wedi addo Mesur Iechyd Meddwl er nad oes yna ddyddiad pendant ar gyfer hyn – ond roedd yn rhan o Araith y Frenhines, ac felly, mi ddylai gael ei gyflwyno yn ystod y sesiwn hon o’r Senedd.

Yn y cyfamser, nid oes unrhyw addewid neu argoel fod yna ddeddfwriaeth debyg i’w chyflwyno yng Nghymru. Os nad yw hyn yn newid,  efallai mai’r hyn a welwn ni yw Cymru yn dilyn trywydd Lloegr ac yn manteisio ar y Mesur yn y Senedd yn San Steffan drwy fod yn rhan o’r broses honno, yn hytrach na’n ceisio gwella pethau neu’n teilwra’r gyfraith ar gyfer ein hanghenion penodol ni.

Yn y cyfamser, rwy’n nodi fod Llywodraeth Cymru yn eiddgar i gael mwy o bwerau gan San Steffan, yn enwedig o ran materion cyfiawnder – mae syniadau Llywodraeth Cymru ar gael i’w gweld yma.

Nawr, mae hyn yn ddiddorol. Byddai’n dda i weld Cymru yn ceisio mynd i’r afael gyda’r sgandal o ddanfon pobl ag afiechyd meddwl difrifol i’r carchar (os ydynt yn beryglus, dylent gael eu dal mewn ysbyty). A byddai’n gwneud synnwyr i gysylltu maes fel cyfiawnder troseddol gyda meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli, fel iechyd.

Ond hoffem awgrymu rhywbeth wrth Lywodraeth Cymru. Os ydych am gael mwy o bwerau,  yna dangoswch eich bod yn rhagweithiol gyda’r pwerau sydd gennych eisoes yn hytrach na’n gadael i San Steffan i wneud pethau.

Ydw, rwy’n sôn am Fesur Iechyd Meddwl i Gymru! Ac os ydych angen ambell syniad, yna ewch i ddarllen Cyfraith Jo…

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl sydd wedi ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am fwy na 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd ychydig o’r driniaeth honno’n hynod annymunol ac wedi ei dychryn. Mae Jo yn ymgyrchu o blaid Deddf Iechyd Meddwl  flaengar sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi bargen fwy teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

The post Blog Jo: Mesur Iechyd Meddwl Cymru appeared first on Adferiad Recovery Cymru.

Blog Jo: Nid yw adferiad yn opsiwn hawdd
Mae angen cefnogi cleifion yn yr ysbyty.

Edwch ati i ddarllen adroddiad newydd GIG Cymru Making Days Count – National Review of Patients Cared for in Secure Mental Health Hospitals – sydd yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd yn pryderi am bobl ag afiechyd meddwl difrifol.

Mae’n adroddiad hir sydd yn cynnig tystiolaeth werthfawr a fydd yn sicr yn cael ei hystyried fel rhan o blogiau’r dyfodol. Ar y cyfan, mae’n cynnig darlun o ofal ysbyty na sydd yn syndod ac ni fydd yn arwain at benawdau oherwydd nid yw’n sôn am greulondeb neu gam-drin amlwg – er bod tystiolaeth bod rhai o’r ysbytai yma yn parhau’n llefydd dychrynllyd a pheryglus. Mae rhai llwyddiannau gan fod llawer o’r gwaith uwchraddio yn cael ei wneud – er enghraifft, bydd yna ddiwedd cyn hir ar welyau heb gyfleusterau en suite.

Ond mae’r adroddiad dal yn peri rhwystredigaeth i mi. Er mwyn deall pam, gadewch i mi nodi dau ddarn o dystiolaeth yn yr adroddiad …

Canran y cleifion o Gymru mewn ysbytai diogel canolig y GIG sydd wedi mynychu gweithgareddau a gynlluniwyd ar adeg cynnal yr archwiliad: 3% – dim ond 1 ym mhob 30

Y pwysau y mae cleifion o Gymru ar gyfartaledd yn magu (pob ysbyty diogel) ar ôl mynd i’r ysbyty: 6.2 kg – tua un stôn (mae’n 2.5 stôn ar gyfer cleifion mewn ysbytai diogel uchel)

Ydych chi’n gweld ble wyf am fynd  â hyn?

Nid yw hyn swnio fel gwasanaeth sydd yn therapiwtig. Yn wir, mae’n swnio’n hollol wahanol – fel lle diflas na sydd yn ysgogi ac nid oes llawer i’w wneud a bydd y diogi – sydd yn cael ei orfodi arnoch – yn niweidio eich iechyd corfforol, a hynny i’r pwynt na fyddwch o bosib yn byw cyn hired.

Mae lleisiau cleifion yn cael eu clywed yn yr adroddiad ond nid ydynt yn cwyno rhyw lawer am y  staff. Ond i fod yn onest, byddem yn hapus cael gwybod fod y staff ar eu hôl hwy yn fwy aml ac yn eu annog i fod yn fwy gweithgar yn feddyliol a’n gorfforol – mae hyn yn golygu helpu cleifion i wella yn hytrach nag aros iddynt wella.

Mae rhai o’r argymhellion yn yr adroddiad yn weddol ond  nid wyf yn gwely yr hyn yr am weld – chwyldro o ran gofal ysbyty sydd yn troi’r gwasanaeth yn wasanaeth deinamig na sydd yn opsiwn hawdd (ar gyfer cleifion a staff) ond un sydd yn herio cleifion i ddatblygu eu hadferiad a gwobrwyo staff gyda’r boddhad o sicrhau lwyddiant.

A yw’n hawdd dweud hyn? Wel, dyma rai syniadau ymarferol sydd gen i er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd:

Dylid ymgysylltu staff a gwirfoddolwyr sydd â phrofiad o fyw gyda’r afiechyd ar bob lefel – fel therapyddion, rheolwyr a chomisiynwyr

Nodi’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt – a chyflwyno hyn i fannau eraill yn systematig

Cymharu canlyniadau, a chostau’r GIG â darparwyr eraill – a chomisiynu’r hyn sydd yn llwyddo, nid oes ots pwy sy’n ei ddarparu

Datblygu dewis go iawn i gleifion – gan gynnwys pa ysbyty y maent yn mynd iddi

Ac ni allaf ddod i’r diwedd heb eich atgoffa nad yw adroddiad y GIG yn cynnig darlun llawn: peidiwch byth ag anghofio’r sawl sydd yn dioddef mewn carchardai gyda seicosis a symptomau nychus eraill o afiechyd meddwl difrifol. Mae’r sgandal yn parhau.

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl sydd wedi ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am fwy na 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd peth o’r driniaeth honno’n yn hynod annymunol ac wedi ei dychryn. Mae Jo yn ymgyrchu o blaid Deddf Iechyd Meddwl  flaengar sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi bargen deg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

The post Blog Jo: Nid yw adferiad yn opsiwn hawdd appeared first on Adferiad Recovery Cymru.

Blog Jo: Y Sinderela Newydd
Dros y blynyddoedd, mae llawer iawn o ymgyrchwyr fel fi wedi disgrifio iechyd meddwl fel gwasanaeth  “Sinderela” o’i gymharu gyda’r gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i broblemau iechyd corfforol. Ond nid yw’r disgrifiad hwn wedi ei ddefnyddio rhyw lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny oherwydd bod llywodraethau’r DU a Chymru wedi cydnabod y broblem a bod yna gynnydd gwirioneddol wedi ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd.

Mi fyddem yn honni bod yna gryn ffordd i fynd ond rwy’n cydnabod ein bod wedi ennill y ddadl ond mae dal angen sicrhau bod yna gynnydd yn cael ei wneud

Ond mae yna Sinderela newydd erbyn hyn sydd wedi ei gadael gartref ac yn glanhau’r lloriau: wrth hyn, rwy’n golygu’r cleifion mwyaf bregus gydag afiechyd meddwl difrifol.

Un o’r rhesymau pam fod iechyd meddwl wedi dod yn  rhywbeth sydd wedi ei gydnabod yw bod y stigma wedi lleihau. Yn gyffredinol, mae’r cyhoedd dipyn yn fwy tosturiol tuag at bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan nad yw’n rhywbeth sydd yn atal gyrfaoedd mwyach pan fydd y sêr yn datgan yn gyhoeddus eu bod yn profi heriau iechyd meddwl. Mae’n wych a dylem  oll ddathlu’r cynnydd sydd yn cael ei wneud tra’n parhau gyda’r gwaith da.

Ond mae’r diddordeb cyhoeddus a’r trafodaethau yma hefyd wedi creu problem. Mae’n ormod o demtasiwn i bobl symud o gydnabod bod iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n destun pryder i bawb i feddwl fod gwasanaethau iechyd meddwl yn medru helpu pawb – neu o leiaf mwy o bobl. Ond mae hyn gasgliad  ffug  a pheryglus.

Mewn gwirionedd, os yw unigolion, teuluoedd, ysgolion a chyflogwyr yn cymryd mwy o ofal o les meddwl pobl ac yn eu helpu  pan eu bod yn profi problemau iechyd meddwl lefel is, yna dylai hyn leihau’r angen am wasanaethau iechyd meddwl, nid cynyddu atgyfeiriadau. Ond mae’r gwrthwyneb yn digwydd.

Mae’r sefyllfa wedi ei chymhlethu gan y pandemig  Covid. Mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o atgyfeiriadau ac mae hyn i’w ddisgwyl. Ond arhoswch am eiliad: ai gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yw’r bobl gywir i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan y gorbryder a’r  tarfu a achoswyd gan Covid? Nage’n wir –  ac eithrio mewn rhai achosion prin  – fel arfer, mae’r bobl yma eisoes yn meddu ar broblemau iechyd meddwl (ac maent wedi eu  heffeithio’n andwyol yn barod gan y ffaith fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi eu tynnu nôl a’u haflonyddu yn ystod Covid).

Felly, pam fod y cynnydd mewn atgyfeiriadau yn broblem? Gadewch i mi geisio esbonio:

Mae’n wael i bobl sydd yn cael eu hatgyfeirio’n ddiangen oherwydd maent yn wynebu oedi hir a naill ai’n cael eu hatgyfeirio yn ôl at ffurfiau eraill o gefnogaeth neu (yn waeth) yn derbyn triniaeth na sydd angen arnynt

Mae’n wael i bobl sydd angen gwasanaethau arbenigol oherwydd maent yn wynebu oedi hir (yn gorfod cystadlu gyda’r atgyfeiriadau diangen) ac mewn peryg o ganlyniad i hyn. A phan eu bod yn derbyn gwasanaethau, nid oes digon o adnoddau ar gael gan fod y cyllid cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl a fyddai’n elwa yn fwy gan bobl na sy’n arbenigwyr.

Felly, mae’n sefyllfa lle y mae “pawb ar eu colled”.

Ac mae rhywbeth hyd yn oed mwy  difäol am hyn oll. Y gwirionedd yw nad yw pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, yn enwedig y sawl sydd mewn ysbytai neu garchardai gyda symptomau seicotig, yn cydweddu gyda’r ddelwedd boblogaidd o iechyd meddwl – sef y sêr sydd yn datblygu problem sydd o dan reolaeth neu’r sawl o blith y dosbarth canol yn cymharu canhwyllau ymwybyddiaeth ofalgar mewn parti.

A wnes i ddweud fod y stigma yn lleihau? Mae’r frwydr yn parhau ar gyfer y rhai sydd yn fwyaf bregus – a byddaf yn trafod hyn eto gyda’r syniadau am sut i sicrhau eu bod hwy hefyd yn cael mynd i’r ddawns.

Yn y cyfamser, llongyfarchiadau i’m ffrindiau yn Adferiad Recovery sydd wedi amlygu’r driniaeth annheg sy’n cael ei rhoi i’r sawl ag anghenion uchel: ewch i ddarllen yr ymateb i ymgynghoriad y Senedd ar anghydraddoldebau iechyd meddwl sydd ar gael yma.

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl sydd wedi ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am fwy na 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd peth o’r driniaeth honno’n yn hynod annymunol ac wedi ei dychryn. Mae Jo yn ymgyrchu o blaid Deddf Iechyd Meddwl  flaengar sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi bargen deg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

The post Blog Jo: Y Sinderela Newydd appeared first on Adferiad Recovery Cymru.