{"id":9969,"date":"2024-09-19T16:50:55","date_gmt":"2024-09-19T15:50:55","guid":{"rendered":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?p=9969"},"modified":"2024-10-03T10:23:51","modified_gmt":"2024-10-03T09:23:51","slug":"cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/","title":{"rendered":"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad!"},"content":{"rendered":"<p><em>Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Sue Northcott fel Cadeirydd newydd Ymddiriedolwyr yr Elusen. Mae Sue yn cymryd y r\u00f4l gan Clive Wolfendale sydd wedi cwblhau tymor o dair blynedd fel Cadeirydd cyntaf Adferiad.<\/em><\/p>\n<p><em>Mae Sue, sy\u2019n bencampwr Amser i Newid Cymru, wedi rhannu ei stori bersonol o fywyd gyda chyflwr iechyd meddwl difrifol ar nifer o achlysuron i helpu i herio ac i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 salwch meddwl difrifol. Mae Sue wedi bod yn ddigon caredig i rannu ychydig o\u2019i stori isod:<\/em><\/p>\n<p>Fy enw i ydi Sue Northcott, ac fe hoffwn gyflwyno fy hun. Rwy\u2019n meddwl bod cael fy ngeni mewn t\u0177 cyngor yn Sandfields, Port Talbot \u00e2 llawer i wneud gyda datblygiad fy nghydwybod cymdeithasol, sydd wedi fy arwain yn fy mywyd.<\/p>\n<p>Gweithiais mewn TGCh fel gweinyddwr cronfa ddata yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, cyn cymryd ymddeoliad cynnar yn 2024. Roeddwn yn weithredol fel undebwr llafur am dros 30 mlynedd. Roedd hyn yn cynnwys bod yn gadeirydd cangen yn ystod preifateiddio cyntaf asiantaeth llywodraethol, a chefnogi fy aelodau yn y sector breifat. Rwyf wedi cyfranogi yn fy nghymuned leol ers blynyddoedd maith, ac wedi gwirfoddoli i bob math o sefydliadau. Gwasanaethais fel Cynghorydd Tref am 17 mlynedd, yn cynnwys blwyddyn fel Maer Pontardawe. Roedd hyn yn cynnwys cadeirio holl gyfarfodydd y Cyngor, cynrychioli\u2019r Cyngor yn y gymuned a chynrychioli fy nghymuned yn y byd ehangach. Mae gennyf gymwysterau Lefel 4 a 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli, ac wedi eu caffael fel myfyriwr aeddfed (iawn).<\/p>\n<p>Rwy\u2019n fam i ddau, a Mamgu i un, ac wedi dod yn weddw yn ddiweddar. Ar hyn o bryd, rwy\u2019n gwasanaethu\u2019r Eglwys yng Nghymru, yn rhan amser ac yn ddi-d\u00e2l, fel offeiriad yn y r\u00f4l o Gurad Cynorthwyol yn Ardal Weinidogaeth Cwmtawe, a derbyniais fy ngradd gyntaf, Baglor mewn Diwinyddiaeth, eleni. Rwy\u2019n athrawes myfyrdod BSM cymwys.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n oroeswr hunanladdiad ac yn dioddef o orbryder difrifol ac iselder clinigol cylchol. Yn ddiweddar rwyf wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gyda dyspracsia ac ADHD tybiedig, sy\u2019n egluro llawer.<\/p>\n<p>Deuthum yn Bencampwr Iechyd Meddwl Amser i Newid Cymru yn 2015, wedi i mi ddarganfod Hafal yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Rwyf wedi rhannu fy stori wyneb yn wyneb, drwy ysgrifennu blogiau, ac ar y radio a\u2019r teledu. Mae fy r\u00f4l hefyd wedi arwain i mi sefydlu Gr\u0175p Rhyngweithio Iechyd Meddwl Staff y DVLA, gan ei gadeirio hyd at fy ymddeoliad.<\/p>\n<p>Roedd yn fraint cael y cynnig i ymuno \u00e2 bwrdd Hafal fel aelod-ymddiriedolwr am nifer o flynyddoedd ac wedi parhau ar fwrdd Arferiad yn ystod yr uniad diweddar. Gobeithiaf allu defnyddio fy mhrofiad helaeth yn fy r\u00f4l newydd fel Cadeirydd Adferiad, a helpu i adnewyddu ffocws ein sefydliad ar ei aelodau a defnyddwyr gwasanaeth, tra\u2019n sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyflogwr cefnogol o ddewis, ac yn rym ymgyrchol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Ymunodd Prif Weithredwr Adferiad, Alun Thomas gydag aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen i ganmol y Cadeirydd sy\u2019n ymadael, Clive Wolfendale. <\/em><\/p>\n<p>\u201cCymerodd Clive y r\u00f4l fel Cadeirydd cyntaf Adferiad ar adeg yr uno, gan gefnogi\u2019r t\u00eem cyfan trwy\u2019r trawsnewidiad a ddigwyddodd yn ystod y pandemig Covid-19. Roedd ymrwymiad, egni, a goruchwyliaeth adeiladol Clive yn allweddol i\u2019n hesblygiad llwyddiannus i fod yn un o\u2019r elusennau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd Clive wastad eisiau i\u2019r elusennau oedd yn uno gael dyfodol diogel a sicr, ac mae ei waith fel cyn Prif Swyddog Gweithredol ac fel Cadeirydd yn ddiweddarach wedi sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Bydd Clive yn cymryd r\u00f4l fel Is-Gadeirydd ochr yn ochr \u00e2 chyn Gadeirydd WCADA Howard Jones\u201d<\/p>\n<p><em>Ychwanegodd Clive Wolfendale, fel Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr sy\u2019n ymddeol, <\/em><\/p>\n<p>\u201cRwyf mor falch fod Sue\u2019n dymuno cymryd yr awennau fel Cadeirydd Adferiad. Mae ei phrofiadau personol, ei gwerthoedd, a\u2019i hymrwymiad i\u2019n cenhadaeth yn hynod, ac rwy\u2019n teimlo mor falch y byddwn yn cael ein harwain gan rhywun sydd wedi profi cymaint o\u2019r heriau mae ein cleientiaid yn eu hwynebu bob dydd. Rwy\u2019n sicr y bydd Sue yn mynd ag Adferiad ymlaen i uchelfannau newydd ac yn galluogi\u2019r t\u00eem i gyflawni disgwyliadau uchelgeisiol y Bwrdd.\u201d<\/p>\n<p><em>Bydd Sue wedi cychwyn yn y r\u00f4l o gyfarfod cyffredinol blynyddol mis Medi 2024. <\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Sue Northcott fel Cadeirydd newydd Ymddiriedolwyr yr Elusen. Mae Sue yn cymryd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":20,"featured_media":10219,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[92],"tags":[],"class_list":["post-9969","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad! - Adferiad Recovery Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad! - Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Sue Northcott fel Cadeirydd newydd Ymddiriedolwyr yr Elusen. Mae Sue yn cymryd...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-09-19T15:50:55+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-10-03T09:23:51+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"kirsty\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"kirsty\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/\",\"name\":\"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad! - Adferiad Recovery Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2024-09-19T15:50:55+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-03T09:23:51+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1440},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad!\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\",\"name\":\"Adferiad Recovery Cymru\",\"description\":\"Darparu cymorth a chefnogaeth\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada\",\"name\":\"kirsty\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"kirsty\"},\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/kirsty\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad! - Adferiad Recovery Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad! - Adferiad Recovery Cymru","og_description":"Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Sue Northcott fel Cadeirydd newydd Ymddiriedolwyr yr Elusen. Mae Sue yn cymryd...","og_url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/","og_site_name":"Adferiad Recovery Cymru","article_published_time":"2024-09-19T15:50:55+00:00","article_modified_time":"2024-10-03T09:23:51+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1440,"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"kirsty","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"kirsty","Estimated reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/","name":"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad! - Adferiad Recovery Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg","datePublished":"2024-09-19T15:50:55+00:00","dateModified":"2024-10-03T09:23:51+00:00","author":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#primaryimage","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/07\/SuePic-scaled.jpg","width":2560,"height":1440},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2024\/09\/19\/cadeirydd-ymddiriedolwyr-newydd-i-adferiad\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cadeirydd Ymddiriedolwyr Newydd i Adferiad!"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/","name":"Adferiad Recovery Cymru","description":"Darparu cymorth a chefnogaeth","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada","name":"kirsty","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g","caption":"kirsty"},"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/kirsty\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9969","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/users\/20"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9969"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9969\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10220,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9969\/revisions\/10220"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10219"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9969"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9969"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9969"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}