{"id":9571,"date":"2023-07-18T10:18:26","date_gmt":"2023-07-18T09:18:26","guid":{"rendered":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?p=9571"},"modified":"2024-07-11T10:16:58","modified_gmt":"2024-07-11T09:16:58","slug":"mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/","title":{"rendered":"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl"},"content":{"rendered":"<p>Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru\u00a0<em><a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/sites\/default\/files\/pdf-versions\/2022\/7\/2\/1658848397\/tobacco-control-strategy-wales.pdf\">Cymru di-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco<\/a>.<\/em> Mae hwn yn gynllun i roi terfyn ar ysmygu fel nodwedd sylweddol o fywyd yng Nghymru erbyn 2030 ac fe gafodd groeso eang a\u2019i weld yn hygred yng nghyd-destun y cwymp cyflym mewn ysmygu a\u2019r twf yn y cydnabyddiad y byddai\u2019n well i bawb os byddwn yn rhoi\u2019r gorau i dybaco unwaith ac am byth. Hoffwn wneud yr achos dros wneud yr un peth gyda chyffuriau anghyfreithlon.<\/p>\n<p>Mae Adferiad yn bodoli i helpu pobl i adfer o gaethiwed a phroblemau iechyd meddwl \u2013 ac mae\u2019r ddau\u2019n aml yn mynd law yn llaw. Cawn ein harwain gan bobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau, ac mae ein bwrdd ymddiriedolwyr yn cynnwys pobl sydd wedi profi caethiwed, gyda llawer o\u2019n staff hefyd \u00e2 phrofiad byw \u2013 dyna sy\u2019n eu gwneud mor effeithiol fel therapyddion. Rydym oll yn rhannu\u2019r nod o ddod \u00e2 diwedd i\u2019r trallod a\u2019r gwastraff a achosir gan gyffuriau ac rydym yn credu y gellir ei gyflawni os yw\u2019r ewyllys yno gan y llywodraeth \u2013 ac fe wyddom fod yr ewyllys yno\u2019n barod yn y gymuned ehangach, yn enwedig yn y cymdogaethau hynny sy\u2019n dioddef lefel uchel o ddefnydd cyffuriau a\u2019i effaith ehangach ar iechyd, troseddu ac anhrefn.<\/p>\n<p>Ac eto mae amharodrwydd ymhlith gwleidyddion ac eraill mewn awdurdod i ymrwymo i gael gwared o gyffuriau o\u2019n cymdeithas; yn wir, mae lefel sylweddol o gefnogaeth ymhlith llunwyr polisi i normaleiddio defnydd cyffuriau gan dderbyn defnydd mwy diogel o gyffuriau fel nod digonol, lleihau\u2019r orfodaeth gyfreithiol neu hyd yn oed gwneud cyffuriau\u2019n gyfreithlon. Pam fyddai hynny?<\/p>\n<p>Tua hanner can mlynedd yn \u00f4l roedd lleiafrif sylweddol oedd yn meddwl nad oedd cyffuriau\u2019n gwneud llawer o ddrwg a\u2019i fod yn fater o ddewis personol beth bynnag. Nid oedd hon yn farn a rennir gan gymdeithas yn gyffredinol ac roedd defnydd anghymesur o orfodi\u2019r gyfraith i\u2019w wahardd; yn y cyfamser ni wnaethpwyd lawer i helpu\u2019r rhai hynny oedd yn dioddef o gaethiwed.<\/p>\n<p>Nid oedd yn syndod felly fod pobl wedi dechrau meddwl petai gorfodaeth oedd yr ymagwedd gywir. Ar ben hynny, roedd y defnydd o gyffuriau\u2019n cynyddu ac yn cael ei dderbyn gan leiafrif sylweddol. Os mai hyn oedd y dyfodol, yna roedd yn gwestiwn teg i ofyn os oedd angen dod i ddygymod \u00e2 chyffyriau, er nad oedd hyn ychwaith yn argyhoeddi\u2019r cyhoedd na\u2019r awdurdodau.<\/p>\n<p>Mae llawer wedi newid erbyn heddiw. Mae effeithiau dinistriol caethiwed yn hysbys, ac mae hyd yn oed canabis \u2013 y teimlwyd ers tro i fod yn eithriad diniwed \u2013 wedi profi i fod yn gaethiwus ac yn achos sylweddol o salwch seicotig (gwyddom lawer am hyn yn Adferiad drwy ein gwaith yn cefnogi pobl gyda salwch meddwl difrifol). Mae\u2019r amharodrwydd i fynd i\u2019r afael \u00e2 chyffuriau\u2019n parhau ac eto mae ymagwedd fwy oddefgar a ffatalaidd yn dal i gael ei gweld yn flaengar a synhwyrol gan lawer mewn awdurdod. Beth sy\u2019n mynd ymlaen?<\/p>\n<p>Ymddengys mai\u2019r broblem yw nad yw pobl wedi cadw i fyny \u2013 nid yn unig gyda\u2019r dystiolaeth gynyddol o\u2019r niwed a achosir gan gyffuriau, ond hefyd gyda chanfyddiad cymdeithas o gyffuriau. Efallai nad yw rhai mewn awdurdod yn ymwybodol o hyn, ond nid yw\u2019r defnydd o gyffuriau wedi profi i fod yn arferiad sy\u2019n cynyddu\u2019n wastadol: i\u2019r gwrthwyneb, <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/crimeandjustice\/articles\/drugmisuseinenglandandwales\/yearendingjune2022\">bu gostyngiad dramatig yn y defnydd o gyffuriau yn ystod y 25 mlynedd diwethaf<\/a>. \u00a0\u00a0Mae\u2019r defnydd o gyffuriau yn gostwng \u2013 yn fawr: dylai\u2019r llywodraeth symud ochr yn ochr a\u2019r tuedd hwn, yn hytrach na\u2019i beryglu. Yn y cyfamser, mae marwolaethau oherwydd cyffuriau ymhlith defnyddwyr h\u0177n yn codi \u2013 fel canlyniad i\u2019r cyfraddau defnydd hanesyddol uwch sy\u2019n reswm arall i roi cyffuriau y tu \u00f4l i ni.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhai sy\u2019n dadlau dros y defnydd o gyffuriau yn crybwyll tystiolaeth o ddadleuon eraill y dylid eu hystyried hefyd\u2026<\/p>\n<p>Nodir bod trin pobl sy\u2019n defnyddio cyffuriau fel troseddwyr yn wrthgynhyrchiol. Ond, mewn gwirionedd, ychydig iawn o bobl sy\u2019n defnyddio cyffuriau sy\u2019n cael eu herlyn: ac mae hynny\u2019n iawn hefyd \u2013 mae\u2019n anghymesur ac yn ddi-fudd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Ond mae gan ddad-droseddoli gwirioneddol o\u2019u defnydd, neu roi\u2019r gorau i orfodaeth, ganlyniadau mawr, a\u2019r pennaf o\u2019r rhain fyddai gwneud y defnydd o gyffuriau\u2019n weledol ac yn \u201cdderbyniol\u201d ym mywyd o ddydd i ddydd. Edrychwch ar y drychineb mae\u2019r entrepreneur a\u2019r dyngarwr Cymreig, Michael Moritz, wedi tynnu sylw ati yn <a href=\"https:\/\/nypost.com\/2023\/02\/09\/billionaire-michael-moritz-slams-dems-for-san-franciscos-drug-addled-zombie-zones\/\">San Francisco<\/a> ble mae cael gwared o\u2019r mesurau i reoli cyffuriau wedi troi llawer o ganol y ddinas yn ardal frawychus ac anobeithiol ble na all trigolion cyffredin fynd. Mae angen y gyfraith i gadw trefn, i adlewyrchu ffieidd-dra haeddiannol cymdeithas tuag at gyffuriau, ac atal pobl agored i niwed rhag cael eu temtio i\u2019w defnyddio.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dywedir hefyd y byddai dad-droseddoli\u2019r cyflenwi yn rhoi\u2019r troseddwyr sy\u2019n gwthio cyffuriau allan o fusnes. Gwneir yr un ddadl yn yr Unol Daleithiau er mwyn amddiffyn cyflenwad cyfreithlon drylliau \u2013 tra\u2019n gwadu cyfradd anweddus dynladdiad yn y wlad honno. Arwydd o anobaith fyddai i gyfreithloni rhywbeth niweidiol iawn dim ond er mwyn lleihau cyflenwad anghyfreithlon. Mae\u2019n amlwg hefyd y byddai mynediad llawer haws a gweladwy at gyffuriau yn cynyddu defnydd, gan wrthdroi\u2019r duedd ar i lawr.<\/p>\n<p>Dau bwynt arall. Mae\u2019n hollol gywir i brescripsiynu cyffuriau sy\u2019n anghyfreithlon fel arall a darparu modd diogel i\u2019w defnyddio i rai unigolion penodol sy\u2019n dioddef yn enbyd o gaethiwed: gall hyn eu helpu i gyflawni adferiad yn ddiogel. Does gan hyn ddim i\u2019w wneud \u00e2 normaleiddio\u2019r defnydd o gyffuriau yn y gymdeithas ehangach na gydag unrhyw syniad fod \u201cdefnydd diogel\u201d yn nod digonol ar gyfer unigolyn neu\u2019r rhai sy\u2019n ei helpu. Does dim byd o\u2019i le ychwaith ar archwilio\u2019r defnydd o gyffuriau sydd fel arall yn anghyfreithlon ar gyfer trin salwch (y defnydd o ganabis i leddfu poen, er enghraifft): hyn yw\u2019r achos eisioes gyda rhai opiadau, a does gan hyn ddim i\u2019w wneud \u00e2\u2019r defnydd o gyffuriau hamdden. Dylai\u2019r pwyntiau hyn fod yn amlwg ond gwneir cysylltiadau ffug yn aml ac mae angen eu cwestiynu.<\/p>\n<p>Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl os ydym yn ddigon dewr i ddilyn ein hargyhoeddiadau. Gellid gwthio\u2019r defnydd o gyffuriau i\u2019r cyrion yn gyflym trwy barhau i annog y lleihad mewn defnydd sydd eisioes yn gostwng tra\u2019n parhau i roi pwysau ar y troseddwyr hynny sy\u2019n cyflenwi. Yn y cyfamser, mae\u2019n rhaid i ni weithio\u2019n llawer caletach i helpu pobl sydd \u00e2 phroblemau caethiwed trwy driniaeth a chefnogaeth prydlon sydd yn dosturiol ac yn bendant.<\/p>\n<p><em>Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am gefnogaeth Adferiad ar gyfer pobl a effeithir gan gaethiwed yn \u00a0<\/em><a href=\"https:\/\/adferiad.org\/\"><strong>https:\/\/adferiad.org\/<\/strong><\/a><\/p>\n<p>Erthygl gan: Clive Wolfendale, Cadeirydd Adferiad.<\/p>\n<p>Wedi ei gyhoeddi\u2019n wreiddiol yn y Western Mail, ddydd Llun 17 Gorffennaf, 2023.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru\u00a0Cymru di-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco. Mae hwn yn gynllun i roi terfyn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":15,"featured_media":9573,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[92],"tags":[],"class_list":["post-9571","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl - Adferiad Recovery Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl - Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru\u00a0Cymru di-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco. Mae hwn yn gynllun i roi terfyn...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-07-18T09:18:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-07-11T09:16:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"783\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"488\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Reuben Maclean-Quin\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Reuben Maclean-Quin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/\",\"name\":\"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl - Adferiad Recovery Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png\",\"datePublished\":\"2023-07-18T09:18:26+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-11T09:16:58+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d68c1de2c3c6301436381506c565b3fd\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png\",\"width\":783,\"height\":488},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\",\"name\":\"Adferiad Recovery Cymru\",\"description\":\"Darparu cymorth a chefnogaeth\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d68c1de2c3c6301436381506c565b3fd\",\"name\":\"Reuben Maclean-Quin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4402e4e456e91815502e17428c945737a6cd76ea00926ca0dfd5831d63a41673?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4402e4e456e91815502e17428c945737a6cd76ea00926ca0dfd5831d63a41673?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Reuben Maclean-Quin\"},\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/gareth\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl - Adferiad Recovery Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl - Adferiad Recovery Cymru","og_description":"Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru\u00a0Cymru di-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco. Mae hwn yn gynllun i roi terfyn...","og_url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/","og_site_name":"Adferiad Recovery Cymru","article_published_time":"2023-07-18T09:18:26+00:00","article_modified_time":"2024-07-11T09:16:58+00:00","og_image":[{"width":783,"height":488,"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png","type":"image\/png"}],"author":"Reuben Maclean-Quin","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Reuben Maclean-Quin","Estimated reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/","name":"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl - Adferiad Recovery Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png","datePublished":"2023-07-18T09:18:26+00:00","dateModified":"2024-07-11T09:16:58+00:00","author":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d68c1de2c3c6301436381506c565b3fd"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#primaryimage","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png","contentUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/3.png","width":783,"height":488},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/07\/18\/mae-cymru-di-gyffuriau-yn-bosibl\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/","name":"Adferiad Recovery Cymru","description":"Darparu cymorth a chefnogaeth","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d68c1de2c3c6301436381506c565b3fd","name":"Reuben Maclean-Quin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4402e4e456e91815502e17428c945737a6cd76ea00926ca0dfd5831d63a41673?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4402e4e456e91815502e17428c945737a6cd76ea00926ca0dfd5831d63a41673?s=96&d=mm&r=g","caption":"Reuben Maclean-Quin"},"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/gareth\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9571","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/users\/15"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9571"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9571\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9577,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9571\/revisions\/9577"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9573"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9571"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9571"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9571"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}