{"id":9559,"date":"2023-04-14T14:38:32","date_gmt":"2023-04-14T13:38:32","guid":{"rendered":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?p=9559"},"modified":"2024-07-11T10:20:09","modified_gmt":"2024-07-11T09:20:09","slug":"ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/","title":{"rendered":"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid"},"content":{"rendered":"<p>Dengys ymchwil newydd bod tri chwarter (75%) o\u2019r rhai hynny sy\u2019n profi problemau gyda gamblo yn teimlo na allent ei drafod gyda\u2019u hanwyliaid, gyda stigma fel y prif rwystr sy\u2019n atal pobl rhag agor i fyny.<\/p>\n<p>Mae\u2019r data, o\u2019r elusen\u00a0<a href=\"https:\/\/www.begambleaware.org\/\"><strong>GambleAware<\/strong><\/a>, yn awgrymu, yn ychwanegol i\u2019r rhai hynny sy\u2019n teimlo na allent siarad gyda theulu neu ffrindiau, bod bron i chwarter (23%) o oedolion yn datgan eu bod yn credu eu bod yn adnabod rhywun sydd wedi profi problemau gyda gamblo. Dengys y data hefyd sut mae tri allan o bump (61%) yn cael eu hatal rhag siarad gyda\u2019r rheiny sy\u2019n profi niwed gamblo oherwydd pryderon ynghylch stigma.<\/p>\n<p>Mae niwed gamblo \u2013 neu ganlyniadau negyddol gamblo \u2013 yn fater iechyd cyhoeddus cymhleth. I fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, mae GambleAware wedi lansio ymgyrch iechyd meddwl fawr newydd i leihau\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 niwed gamblo trwy geisio newid canfyddiadau a dealltwriaeth cymdeithasol o\u2019r mater. Mae\u2019r ymgyrch wedi ei chreu ar y cyd gyda phobl sydd \u00e2 phrofiad byw o niwed gamblo, gan roi eu profiadau wrth galon yr ymgyrch.<\/p>\n<p>Dywedodd Zo\u00eb Osmond, Prif Weithredwr GambleAware: \u201cMae niwed gamblo yn gudd ac yn gymhleth eu natur. I lawer o bobl sy\u2019n profi niwed gamblo, gall teimladau o gywilydd ac embaras olygu eu bod yn ei chael yn anodd i drafod y mater gydag anwyliaid.<\/p>\n<p>\u201cGall niwed gamblo effeithio unrhyw un, sy\u2019n ei gwneud hi mor bwysig ein bod yn cael gwared o\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig gydag ef ac yn annog pobl i ddod ymlaen ac i siarad am niwed gamblo. Mae\u2019n hen bryd i ni ddod \u00e2 diwedd i\u2019r stigma ac agor y drafodaeth am gamblo.\u201d<\/p>\n<p>Gyda\u2019r data\u2019n dangos y r\u00f4l mae stigma\u2019n ei chwarae, comisiynodd GambleAware ymchwil pellach i agweddau a chanfyddiadau o amgylch niwed gamblo. Dangosodd y canlyniadau fod dros dri mewn pump (62%) yn cytuno fod pobl yn beirniadu y rhai hynny sy\u2019n profi niwed gamblo mewn ffordd negyddol, gyda mwy na hanner (56%) yn cytuno ei bod yn bwysig i herio\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 niwed gamblo.<\/p>\n<p>Dywedodd Beth Thomas, Pennaeth Gwasanaeth Niwed Gamblo yn Adferiad Recovery: \u201cY stigma o gwmpas gamblo yw un o\u2019r prif rwystrau i bobl yn estyn allan a cheisio cefnogaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r ofn o gael eu labelu yn atal pobl rhag edrych am y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019u caethiwed.<\/p>\n<p>\u201cNid yw caethiwed yn diffinio person, dim ond dynol ydan ni i gyd ac mae gan pob un ohonom yr hawl i fyw mewn cymdeithas ble nad yw ein gwerth yn cael ei fesur yn \u00f4l rhagfarn pobl eraill.<\/p>\n<p>\u201cGwnaethom lansio ein hymgyrch\u00a0<strong>\u2018<a href=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/campaigns\/2022-only-human\/\">Dynol o Hyd<\/a>\u2019<\/strong> y llynedd, gyda\u2019n nodau allweddol i:<\/p>\n<ul>\n<li>Fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chaethiwed<\/li>\n<li>I roi llais i\u2019r rhai hynny sydd \u00e2 phrofiad byw o gaethiwed<\/li>\n<li>I ddathlu ac i hyrwyddo adferiad<\/li>\n<\/ul>\n<p>\u201cMae mor bwysig ein bod ni\u2019n mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r stigma ac yn agor y drafodaeth ynghylch gamblo i leihau niwed ac i annog mwy o bobl i chwilio am gymorth.<\/p>\n<p>\u201cMae angen ymagwedd gydlynol system gyfan i leihau niwed gamblo. Felly, fel partner allweddol o\u2019r rhwydwaith cefnogi gamblo genedlaethol rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i gynllun stigma GambleAware ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth gyda\u2019n gilydd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Dame Clare Gerada, Llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu: \u201cMae niwed gamblo yn fater iechyd cyhoeddus difrifol a gall effeithio unrhyw un. Gallent amlygu mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys materiol iechyd meddwl neu gorfforol. Gall meddygon teulu a\u2019r sector iechyd ehangach chwarae r\u00f4l hanfodol wrth fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater o niwed gamblo, trwy gefnogi\u2019r rhai hynny sy\u2019n profi\u2019r niwed yn uniongyrchol. Mae\u2019r ymgyrch hon yn gam pwysig i annog pobl a\u2019r rhai yn y sector i agor y drafodaeth ac i gyfeirio tuag at yr offerynnau a\u2019r cyngor all achub bywydau sydd ar gael.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Ellie Cannon: \u201cFel meddyg teulu, rwyf wedi gweithio gyda chleifion sy\u2019n chwilio am gefnogaeth ar gyfer niwed gamblo, felly rwy\u2019n deall sut gallent amlygu eu hunain i unigolyn mewn ffyrdd hynod heriol, sydd ddim yn annhebyg i gyflyrau eraill megis camddefnydd alcohol neu gyffuriau. Gyda stigma yn atal cymaint o bobl agored i niwed rhag chwilio am gefnogaeth, mae\u2019n amser i gymdeithas herio ei ymagwedd hen fasiwn tuag at niwed gamblo a\u2019r rhai hynny sy\u2019n eu profi.\u201d<\/p>\n<p>Mewn ymdrech i agor y drafodaeth ynghylch niwed gamblo, mae GambleAware wedi partneru gyda\u2019r cyflwynydd teledu a radio, Tyler West, gan fod\u00a0 ei frawd wedi profi niwed gamblo am nifer o flynyddoedd a effeithiodd ar ei berthnasoedd gyda\u2019i anwyliaid. Cyfarfu West gyda nifer o bobl eraill oedd wedi eu heffeithio gan niwed gamblo i ddarganfod mwy am yr effaith mae stigma yn ei gael ar y rhai hynny sy\u2019n profi niwed, a sut y bu iddynt agor i fyny amdano.<\/p>\n<p>Dengys y ffilm Stacey Goodwin a Martin Paterson a rannodd eu profiadau uniongyrchol, ynghyd \u00e2\u2019r arbenigwr stigma, yr Athro Cyswllt Dr Joanne Lloyd, o Brifysgol Wolverhampton.<\/p>\n<p>Dywedodd Tyler West: \u201cMae cyfarfod gydag eraill sydd wedi\u2019u heffeithio gan niwed gamblo, fel roedd fy mrawd, wedi agor fy llygaid go iawn i\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 mater sy\u2019n agos i\u2019n nghalon i a pha mor gyffredin ydoedd. Mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch hyn.<\/p>\n<p>Wedi profi\u2019r effaith y gall niwed gamblo ei gael ar rhywun, gallaf weld pa mor bwysig yw hi i bobl deimlo\u2019n gyfforddus i siarad ac i ofyn am gymorth os ydynt yn cael trafferth. Mae\u2019n hanfodol ein bod i gyd yn gwneud mwy i newid y drafodaeth o gwmpas gamblo ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2 sut mae cymdeithas yn gweld pobl sy\u2019n profi niwed gamblo.\u201d<\/p>\n<p>Mae mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 niwed gamblo yn gofyn am ymagwedd system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth gydag eraill. Mae\u2019r ymgyrch GambleAware hefyd yn dod \u00e2 chynghrair at ei gilydd o grwpiau y gellir ymddiried ynddynt o\u2019r sectorau preifat, cyhoeddus, a\u2019r trydydd sector sy\u2019n rhannu\u2019r pwrpas cyffredin o atal niwed gamblo.<\/p>\n<p>Dywedodd Dame Clare Moriarty, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice): \u201cTra gall niwed gamblo effeithio ar unrhyw un, mae risg anghymesur i\u2019r rhai hynny ar incwm is, neu rai sy\u2019n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig. Dyna pam rydym yn gweithio gyda GambleAware i helpu i leihau stigma gamblo ac i gefnogi pobl a chymunedau sydd \u00e2\u2019r angen mwyaf.\u201d<\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n poeni am y ffordd mae gamblo yn gwneud i chi deimlo, mae help ar gael. Am gyngor cyfrinachol, yn rhad ac am ddim, ac am gefnogaeth, edrychwch am GambleAware neu cysylltwch \u00e2\u2019r National Gambling Helpline, sydd ar gael 24\/7, ar 0808 8020 133. Cysylltwch gydag Adferiad yma: 01792 816 600 (Llun-Gwener 8am\u20135pm) neu drwy e-bost: info@adferiad.org<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dengys ymchwil newydd bod tri chwarter (75%) o\u2019r rhai hynny sy\u2019n profi problemau gyda gamblo yn teimlo na allent ei&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":9560,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[92],"tags":[],"class_list":["post-9559","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid - Adferiad Recovery Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid - Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dengys ymchwil newydd bod tri chwarter (75%) o\u2019r rhai hynny sy\u2019n profi problemau gyda gamblo yn teimlo na allent ei...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-04-14T13:38:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-07-11T09:20:09+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"806\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"502\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Dave Vice\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Dave Vice\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/\",\"name\":\"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid - Adferiad Recovery Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg\",\"datePublished\":\"2023-04-14T13:38:32+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-11T09:20:09+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/be36f2b9441cc8cd0b5f160d4b73dbab\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg\",\"width\":806,\"height\":502},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\",\"name\":\"Adferiad Recovery Cymru\",\"description\":\"Darparu cymorth a chefnogaeth\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/be36f2b9441cc8cd0b5f160d4b73dbab\",\"name\":\"Dave Vice\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec549d88c0175991e927eb1f9f567591572e0f4751e8f85df2a5712f18ad193a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec549d88c0175991e927eb1f9f567591572e0f4751e8f85df2a5712f18ad193a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Dave Vice\"},\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/dave_vice\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid - Adferiad Recovery Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid - Adferiad Recovery Cymru","og_description":"Dengys ymchwil newydd bod tri chwarter (75%) o\u2019r rhai hynny sy\u2019n profi problemau gyda gamblo yn teimlo na allent ei...","og_url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/","og_site_name":"Adferiad Recovery Cymru","article_published_time":"2023-04-14T13:38:32+00:00","article_modified_time":"2024-07-11T09:20:09+00:00","og_image":[{"width":806,"height":502,"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Dave Vice","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Dave Vice","Estimated reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/","name":"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid - Adferiad Recovery Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg","datePublished":"2023-04-14T13:38:32+00:00","dateModified":"2024-07-11T09:20:09+00:00","author":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/be36f2b9441cc8cd0b5f160d4b73dbab"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#primaryimage","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg","contentUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/08\/09.jpg","width":806,"height":502},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2023\/04\/14\/ymchwil-newydd-yn-dangos-bod-75-or-bobl-syn-profi-problemau-gamblo-methu-agor-i-fyny-iw-hanwyliaid\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ymchwil newydd yn dangos bod 75% o\u2019r bobl sy\u2019n profi problemau gamblo methu agor i fyny i\u2019w hanwyliaid"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/","name":"Adferiad Recovery Cymru","description":"Darparu cymorth a chefnogaeth","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/be36f2b9441cc8cd0b5f160d4b73dbab","name":"Dave Vice","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec549d88c0175991e927eb1f9f567591572e0f4751e8f85df2a5712f18ad193a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec549d88c0175991e927eb1f9f567591572e0f4751e8f85df2a5712f18ad193a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Dave Vice"},"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/dave_vice\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9559","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9559"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9559\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9561,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9559\/revisions\/9561"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9560"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9559"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9559"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9559"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}