{"id":10731,"date":"2026-04-29T13:27:36","date_gmt":"2026-04-29T12:27:36","guid":{"rendered":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?p=10731"},"modified":"2026-04-29T13:27:36","modified_gmt":"2026-04-29T12:27:36","slug":"etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p>Gydag etholiadau\u2019r Senedd yn agos\u00e1u, mae\u2019r pleidiau gwleidyddol ar draws Cymru wedi dechrau gosod allan eu blaenoriaethau ar gyfer cyfnod nesaf y senedd. Mae\u2019r maniffestos o\u2019r holl brif bleidiau yn cynnig mewnwelediad i sut mae pob un yn bwriadu ymateb i\u2019r pwysau cynyddol ar iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>Dros y misoedd diweddar, rydym hefyd wedi gosod allan ein blaenoriaethau ninnau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, wedi eu gwreiddio mewn profiad rheng flaen a lleisiau\u2019r rhai hynny sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau. Mae\u2019r rhain yn ffocysu ar ataliaeth, mynediad, integreiddiad, a sicrhau bod profiad byw yn ganolog i wneud penderfyniadau.<\/p>\n<p>Felly, beth yw blaenoriaethau\u2019r pleidiau?<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Beth rydyn ni\u2019n ei hoffi<\/strong><\/h3>\n<p>Mae yna gonsensws clir ac un a groesawir ar draws y pleidiau gwleidyddol ar nifer o feysydd allweddol.<\/p>\n<h4><u>Ataliaeth ac ymyrraeth gynnar<\/u><\/h4>\n<p>Ar draws y sbectrwm gwleidyddol, yn cynnwys Llafur Cymru, y Gwyrddion, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae yna bwyslais cryf ar symud tuag at ataliaeth a chefnogaeth gynnar. Mae\u2019r cynigion yn cynnwys ehangu gwasanaethau cymunedol, cryfhau\u2019r gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc, a mynd i\u2019r afael \u00e2 phenderfynyddion ehangach iechyd megis tlodi a thai.<\/p>\n<h4><u>Integreiddiad a gofal cyd-gysylltiedig<\/u><\/h4>\n<p>Mae ymrwymiadau i wella\u2019r integreiddiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn amlwg ym maniffestos Llafur Cymru, Plaid Cymru, Reform UK, a Cheidwadwyr Cymru. Tra mae\u2019r dulliau\u2019n amrywio \u2013 o ddiwygio strwythurol i well cydlyniad \u2013 mae yna gydnabyddiaeth a rennir bod darnio\u2019n parhau i fod yn her allweddol.<\/p>\n<h4><u>Datblygiad y gweithlu a gofalwyr<\/u><\/h4>\n<p>Mae cefnogaeth ar gyfer y gweithlu a gofalwyr di-d\u00e2l hefyd yn thema gyson. Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, a Cheidwadwyr Cymru i gyd yn cynnwys ymrwymiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 chyflogau, hyfforddiant, a chydnabod gofalwyr, tra mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru\u2019n tynnu sylw at yr angen i gau\u2019r bwlch rhwng hawliau gofalwyr a\u2019r realiti ar lawr gwlad.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Beth rydym eisiau gweld mwy ohono<\/strong><\/h3>\n<p>Er bod yna arwyddion positif, mae llawer o\u2019r meysydd yn parhau i fod yn dan-ddatblygedig.<\/p>\n<h4><u>Darpariaeth ac atebolrwydd<\/u><\/h4>\n<p>Tra mae uchelgais yn amlwg ar draws yr holl bleidiau, mae\u2019r manylder ynghylch sut y darperir yr ymrwymiadau\u2019n aml yn gyfyngedig. Mae cwestiynau\u2019n parhau parthed cyllid, gweithrediad, ac atebolrwydd.<\/p>\n<h4><u>Profiad byw a chyd-gynhyrchiad<\/u><\/h4>\n<p>Er bod y mwyafrif o\u2019r pleidiau\u2019n cyfeirio at ymgysylltiad, mae llai o eglurder ynghylch sut bydd pobl sydd \u00e2 phrofiad byw yn cymryd rhan ystyrlon wrth siapio gwasanaethau a pholisi. Mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol sydd \u00e2 diddordeb gwirioneddol mewn gwella gwasanaethau.<\/p>\n<h4><u>Anghenion cymhleth a bylchau yn y system<\/u><\/h4>\n<p>Mae llai o ffocws cymharol ar bobl sydd ag anghenion sy\u2019n cyd-ddigwydd, yn cynnwys y rhai hynny sy\u2019n profi heriau salwch meddwl a defnydd sylweddau, gydag ychydig o s\u00f4n am faterion o\u2019r fath ym maniffesto yr un blaid er bod tystiolaeth glir o\u2019r bylchau mewn cefnogaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Casgliad<\/strong><\/h3>\n<p>Ar draws y maniffestos gan Llafur Cymru, Plaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y Blaid Werdd, a Reform UK, mae yna gydnabyddiaeth gref bod yn rhaid i\u2019r system newid. Mae ymrwymiadau cryf ar ataliaeth, integreiddiad, a datblygiad y gweithlu yn galonogol.<\/p>\n<p>Yr her nawr yw i gyflawni. Rydym yn galw ar i bwy bynnag sydd yn chwarae rhan yn Llywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu iechyd meddwl pobl Cymru; boed hynny\u2019n rai sydd \u00e2 llesiant meddyliol gwael, salwch meddwl difrifol, problemau caethiwed a defnydd sylweddau, neu\u2019r rhai sy\u2019n darparu gofal di-d\u00e2l.<\/p>\n<p>Fel sefydliad hirsefydlog sy\u2019n gweithio ar draws Cymru, ac ar draws nifer o sectorau, i gefnogi ac i rymuso pobl sydd \u00e2\u2019r anghenion mwyaf cymhleth, mae Adferiad yn credu mewn darparu\u2019r llwybr cyflymaf a hawsaf i adferiad. Gallwch ddarllen mwy am ein pum blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru <a href=\"http:\/\/bit.ly\/43uLyGY\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r 7fed o Fai agos\u00e1u, mae yna gyfle i\u2019r holl bleidiau i symud y tu hwnt i uchelgeisiau lefel uchel ac i osod cynlluniau allan sy\u2019n gredadwy, wedi eu costio\u2019n llawn, ac yn atebol. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru nid yn unig i osod cyfeiriad, ond hefyd i arddangos sut y bydd newid ystyrlon, parhaol yn cael ei gyflawni.<\/p>\n<p>Cliciwch y dolenni isod i ddarllen maniffestos y pleidiau:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.welshlabour.wales\/manifesto-2026\/\">Llafur Cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.partyof.wales\/manifesto\">Plaid Cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.conservatives.wales\/ourplan\">Ceidwadwyr Cymreig<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.libdems.wales\/manifesto-2026\">Democratiaid Rhyddfrydol Cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wales.greenparty.org.uk\/manifesto\/\">Plaid Werdd<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.reformparty.uk\/view-pdf\/welsh-manifesto\">Reform UK<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gydag etholiadau\u2019r Senedd yn agos\u00e1u, mae\u2019r pleidiau gwleidyddol ar draws Cymru wedi dechrau gosod allan eu blaenoriaethau ar gyfer cyfnod&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":20,"featured_media":10732,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-10731","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorised"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru? - Adferiad Recovery Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru? - Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gydag etholiadau\u2019r Senedd yn agos\u00e1u, mae\u2019r pleidiau gwleidyddol ar draws Cymru wedi dechrau gosod allan eu blaenoriaethau ar gyfer cyfnod...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Adferiad Recovery Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-29T12:27:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2133\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"kirsty\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"kirsty\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Estimated reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/\",\"name\":\"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru? - Adferiad Recovery Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png\",\"datePublished\":\"2026-04-29T12:27:36+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png\",\"width\":2133,\"height\":1200},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website\",\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/\",\"name\":\"Adferiad Recovery Cymru\",\"description\":\"Darparu cymorth a chefnogaeth\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada\",\"name\":\"kirsty\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-GB\",\"@id\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"kirsty\"},\"url\":\"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/kirsty\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru? - Adferiad Recovery Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/","og_locale":"en_GB","og_type":"article","og_title":"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru? - Adferiad Recovery Cymru","og_description":"Gydag etholiadau\u2019r Senedd yn agos\u00e1u, mae\u2019r pleidiau gwleidyddol ar draws Cymru wedi dechrau gosod allan eu blaenoriaethau ar gyfer cyfnod...","og_url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/","og_site_name":"Adferiad Recovery Cymru","article_published_time":"2026-04-29T12:27:36+00:00","og_image":[{"width":2133,"height":1200,"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png","type":"image\/png"}],"author":"kirsty","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"kirsty","Estimated reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/","name":"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru? - Adferiad Recovery Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png","datePublished":"2026-04-29T12:27:36+00:00","author":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png","contentUrl":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Sharepoint-Template-3.png","width":2133,"height":1200},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/2026\/04\/29\/etholiadaur-senedd-2026-beth-mae-maniffestos-y-pleidiaun-ei-olygu-i-iechyd-gofal-cymdeithasol-a-chymunedau-yng-nghymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Etholiadau\u2019r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau\u2019n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#website","url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/","name":"Adferiad Recovery Cymru","description":"Darparu cymorth a chefnogaeth","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/d478d259d01857a9ef9108b978a5eada","name":"kirsty","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-GB","@id":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d91fe97c8bd6989a2546bb1b08efb71f2806e093ca8a4e4d807c73412ba3e614?s=96&d=mm&r=g","caption":"kirsty"},"url":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/author\/kirsty\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10731","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/users\/20"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10731"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10731\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10733,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10731\/revisions\/10733"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10732"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10731"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10731"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/adferiad.org\/cym\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10731"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}