Am y prosiect
Mae’r rhaglen V4P yn anelu i:
- Rhoi lleoedd diogel a chroesawgar i gyn-filwyr fynd yn eu hardaloedd lleol
- Yn cefnogi cyn-filwyr i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl a llwybrau triniaeth er mwyn diwallu eu hanghenion
- Yn sicrhau bod pobl sydd yn cefnogi cyn-filwyr (staff a gwirfoddolwyr yn benodol) yn medru cael hyfforddiant gwell er mwyn cysylltu cyn-filwyr gyda’r llwybrau ehangach.
Mae partner Portffolio gan V4P ar hyd a lled y DU. Gyda rhestr gynyddol o bartneriaid na sydd yn cael eu hariannu.
- Alabare
- Fighting with Pride
- Woodys Lodge
- Valley Veterans
- Defence Medical Welfare Service
- Icarus
- Radiate Arts
- Links
- Mission Motorsports
- VC Gallery
- TGP Cymru
- Firing Line Museum
Mae’r partneriaid yn cynnig cymorth i gyn-filwyr ym meysydd Iechyd Meddwl, Tai, Therapi Teuluol, Gweithgareddau a Hybiau Galw Heibio.
Mae Adferiad Recovery a’r holl brosiectau yn gweithio er mwyn sicrhau’r canlyniadau yma.
- Mae cyn-filwyr yn medru dod o hyd i’r cymorth sydd angen arnynt a’n derbyn gwasaanethau iechyd meddwl a lles sydd o ddiddordeb ac yn berthnasol iddynt.
- Pan yn derbyn gwasanaethau, mae cyn-filwyr yn ddiogel ac yn medru cael eu cefnogi i adferiad. Maent yn medru cael eu hatgyfeirio i’r GIG neu wasanaethau eraill.
- Mae cyn-filwyr mewn risg uwch o hunanladdiad neu risg arall sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl yn medru derbyn cymorth traws-sectorol gwell.
- Mae prosiectau sydd yn cael eu harwain gan gyn-filwyr yn cael eu hatgyfnerthu yn y llwybrau gofal lleol sydd yn cael eu cefnogi gan bartneriaethau da.