Am y prosiect
Mae’r SRP yn wasanaeth hanfodol sydd yn helpu a’n cefnogi y sawl sydd yn gwella o gamddefnyddio sylweddau, a hynny drwy ffocysu ar gefnogi unigolion i ymatal neu barhau i ymatal rhag camddefnyddio sylweddau. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi eu hadferiad ac yn eu helpu i ymatal rhag defnyddio cyffuriau ac alcohol, ail-integrieddio i mewn i’w cymunedau gan wneud y dewisiadau iawn er mwyn byw bywydau llawn heb ddibyniaeth.
Mae’r rhaglen ar gyfer pawb sydd sy’n 18 mlwydd oed a’n hŷn ac mewn peryg bod eu defnydd o gyffuriau/alcohol yn dechrau dod yn broblematig. Mae’n cynnwys y sawl sydd wedi eu gorchymyn gan y Llys i fynd i’r afael gyda hyn gan ei fod yn achosi iddynt droseddu. Mae’r rhai sydd yn gadael canolfan ar gyfer dadwenwyno hefyd yn gymwys a’r sawl sydd wedi cyflawni hyn tra’n aros gartref.
Y nod yw ymatal yn barhaus rhag defnyddio cyffuriau/alcohol er mwyn gwella gweithredu cymdeithasol fel bod modd gwella sgiliau bywyd er mwyn lleihau ymddygiad troseddu a gwella cyflogadwyedd er mwyn gwella ansawdd eu bywydau a datblygu sgiliau trosglwyddadwy sydd yn medru cael eu defnyddio yn y gweithle neu mewn rôl wirfoddol er mwyn i bobl i wneud cyfraniad positif i adeiladu eu dygnwch ac annibyniaeth i adeiladu perthynas gyda theulu a ffrindiau fel bod modd cynyddu hyder a gwella lles.
Y pethau yr ydym yn gwneud
Adeiladu hyder; gwneud penderfyniadau; cyllidebu a chynllunio cyllid; perthnasau; byw’n iachus; dysgu am fy hun; datrys problemau; sgiliau TGl monitro a rheoli cyllidebau cartref; Goresgyn rhwystrau i waith; rheoli dicter; iechyd a diogelwch; sgiliau teithio; sgiliau cyfathrebu; ymwybyddiaeth amgylcheddol. Sgiliau meddwl.
Dringo tu mewn ac yn yr awyr agored
- Sgiliau yn y goedwig.
- Teithiau cerdded lles
- Coginio a bwyta
- Cwis rhyngweithiol
- Diwrnodau mewn atyniadau lleol
- Diwrnod gwirfoddoli lleol – Cadw Cymru’n Daclus
- Taith gerdded yn yr awyr agored
- Cerdded ar y traeth
- Gweithdai cerddoriaeth
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Gwynedd/Ynys Môn peter.swift@adferid.org 0790435917
Conwy/Sir Ddinbych sharon.gibbon@adferiad.org 07796176066
Sir Fflint/Wrecsam hayley.powell@adferiad.org 07765226713