Gwasanaethau Plant

Sir:

Cheredigion Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn

Ffôn:

01437 764639

Email:

info@adferiad.org

About the project

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu Gofal yn y Cartref sydd yn ymarferol, ac yn arbenigol yng nghartrefi plant ag anghenion cymhleth (yn aml mewn partneriaeth gyda Thîm Nyrsio Plant Cymunedol Hywel Dda), gan ganiatáu eu rhieni / teuluoedd i gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu.

Rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd sydd yn hyrwyddo datblygiad y plentyn a’u hiechyd meddwl, gan dalu sylw arbennig i sicrhau amgylchedd positif lle y mae  plant yn byw, chwarae, dysgu a lle y mae staff yn rhyngweithio’n bositif gyda phlant gan eu caniatáu i elwa o berthynas sensitif ac  sydd yn ymddiried gan sicrhau bod eu hawliau a’u hurddas yn cael eu hyrwyddo a’u diogelu drwy’r amser.

Mae’r holl gymorth yn cael ei ddarparu mewn modd sydd yn seiliedig ar anghenion, dymuniadau a ffafriaeth personol er mwyn hyrwyddo lles ac annibyniaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymorth gyda Gofal Personol.
  • Cymorth gyd Maetheg a Hydradu.
  • Cymorth gyda Meddyginiaeth Presgripsiwn.
  • Cymorth gyda Symudedd.
  • Cymorth gyda dyfeisiadau meddygol a chyfarpar monitro.
  • Cludiant i ac o’r ysgol / lleoliadau preswyl

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn gyson fel sesiynau cymorth dyddiol (yn aml dros nos), wythnosol neu fisol ac mae’n hyblyg i hyrwyddo anghenion a lles y rhieni/teulu a’r plentyn y maent yn gofalu amdano.

Mae’r gwasanaeth hwn wedi ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Eligibility / Referral Process

Nid oes cymhwystra ac eithrio eich bod o dan 18 mlwydd oed ac yn meddu ar angen cymorth.

Mae’r gwasanaeth yn medru derbyn atgyfeiriadau gan:
Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol (lleoliadau a ariennir)
Hunan-atgyfeiradau/teuluoedd a ffrindiau – ar gyfer trefniadau preifat.

Mae atgyfeiriadau yn medru cael eu gwneud yn uniongyrchol drwy gysylltu gyda Swyddfa Sir Benfro ar 01437 764639 neu drwy e-bostio info@adferiad.org

Adnoddau