Am y prosiect
Mae Lake Avenue yn wasanaeth tai â chymorth yn y Rhyl. Mae wedi cofrestru fel gwasanaeth cymorth Gofal yn y Cartref gydag Arolygiaeth Gofal Cymru sydd yn cael ei ddarparu yn y tŷ craidd a’r 4 fflat clwstwr.
Mae’r tŷ yn cael ei staffio 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, gyda fflatiau clwstwr yn derbyn cyswllt cyntaf gan Staff Cymorth.
Mae’r tŷ craidd wedi ei leoli ar Lake Avenue ac mae’r fflatiau ar Heol Ffynnongroew a Stryd Water. Adferiad Recovery yw’r asiant rheoli. Mae’r holl eiddo yn berchen i Glwyd Alyn.
Mae’r tŷ wedi ei ddodrefnu yn llawr, yn gyfforddus, yn gartrefol a’n cynnwys gardd fach.
Rydym yn darparu ein gwasanaeth mewn modd sydd yn helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ym mhob agwedd o fywyd:
- Cymorth i reoli llety a theimlo’n ddiogel
- Cymorth i reoli perthynas ag eraill
- Helpu pobl i wneud dewisiadau a’n cymryd risgiau positif
- Cymorth i fynd i weithgareddau cymdeithasol a hamddenol er mwyn cymryd rhan yn y gymuned leol
- Cymorth i adnabod a chael mynediad at hyfforddiant ac addysg
- Cymorth i sicrhau cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
- Cymorth ac atgyfeirio gyda chyllidebu, a materion ariannol
- Helpu gyda rheoli materion corfforol
- Helpu gyda rheoli iechyd meddwl
- Cymorth gyda ffyrdd o fwyd iachus gan gynnwys bwyd, siopa a chadw’n heini.
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Mae atgyfeiriadau yn cael eu derbyn drwy Borth Cymorth Tai Cyngor Sir Ddinbych.
Er mwyn cael eich atgyfeirio, rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn a’n meddu ar gyflwr iechyd meddwl.