Am y prosiect
Mae CAMFA yn darparu therapi i’r rhai hynny sydd angen ymyriadau camddefnyddio sylweddau arbenigol sydd yn cynnwys:
- Cwnsela
- Cyfweld ysgogiadol
- Ymyriadau Cryno
- Therapi Ymddygiadol Gwybyddol
- Mynediad at grwpiau adferiad
Sesiynau Therapiwtig:
- Rydym yn cynnig hyd at 12 sesiwn sydd yn medru cael eu gwneud wyneb i wyneb, ar y ffôn neu ar-lein
- Mae ein holl therapyddion yn gwnselwyr cymwys gyda hyfforddiant ychwanegol ym maes camddefnyddio sylweddau ac adferiad
Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Cleientiaid
- Byw yng Ngogledd Cymru
- Dros 18 mlwydd oed
- Yn pryderi bod defnydd o alcohol a/neu gyffuriau yn mynd y tu hwnt i unrhyw reolaeth
- Yn llwyddo i ymatal rhag defnyddio sylweddau ond yn medru elwa o gymorth er mwyn Atal Ail Bwl o Salwch
- Wedi ei effeithio gan aelod o’r teulu neu ffrind agos sydd yn camddefnyddio sylweddau ac yn elwa o siarad gyda Chwnselydd
Mae’n wasanaeth am ddim
Gwefan – www.adferiad.org
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Mae modd atgyfeirio eich hun / drwy Weithiwr Proffesiynol
Ffoniwch y swyddfa ar 01492 523690/0345 06 12112 neu e-bostiwch enquiries@adferiad.org