Lleoedd, Llwybrau a Rhaglen Pobl Cyn-filwyr (V4P)

Sir:

Cymru

Manylion cyswllt

Am y prosiect

Mae’r rhaglen V4P yn anelu i:

  • Rhoi lleoedd diogel a chroesawgar i gyn-filwyr fynd yn eu hardaloedd lleol
  • Yn cefnogi cyn-filwyr i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl a llwybrau triniaeth er mwyn diwallu eu hanghenion
  • Yn sicrhau bod pobl sydd yn cefnogi cyn-filwyr (staff a gwirfoddolwyr yn benodol) yn medru cael hyfforddiant gwell er mwyn cysylltu cyn-filwyr gyda’r llwybrau ehangach.

Mae partner Portffolio gan V4P ar hyd a lled y DU. Gyda rhestr gynyddol o bartneriaid na sydd yn cael eu hariannu.

  • Alabare
  • Fighting with Pride
  • Woodys Lodge
  • Valley Veterans
  • Defence Medical Welfare Service
  • Icarus
  • Radiate Arts
  • Links
  • Mission Motorsports
  • VC Gallery
  • TGP Cymru
  • Firing Line Museum

Mae’r partneriaid yn cynnig cymorth i gyn-filwyr ym meysydd Iechyd Meddwl, Tai, Therapi Teuluol, Gweithgareddau a Hybiau Galw Heibio.

Mae Adferiad Recovery a’r holl brosiectau yn gweithio er mwyn sicrhau’r canlyniadau yma.

  • Mae cyn-filwyr yn medru dod o hyd i’r cymorth sydd angen arnynt a’n derbyn gwasaanethau iechyd meddwl a lles sydd o ddiddordeb ac yn berthnasol iddynt.
  • Pan yn derbyn gwasanaethau, mae cyn-filwyr yn ddiogel ac yn medru cael eu cefnogi i adferiad. Maent yn medru cael eu hatgyfeirio i’r GIG neu wasanaethau eraill.
  • Mae cyn-filwyr mewn risg uwch o hunanladdiad neu risg arall sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl yn medru derbyn cymorth traws-sectorol gwell.
  • Mae prosiectau sydd yn cael eu harwain gan gyn-filwyr yn cael eu hatgyfnerthu yn y llwybrau gofal lleol sydd yn cael eu cefnogi gan bartneriaethau da.

Adnoddau