Am y prosiect
Mae Prosiect Atal Digartrefedd Wrecsam yn helpu pobl i fynd i’r afael gyda materion a wynebir gan bobl ddigartref neu heb do yn ardal Wrecsam.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig o Dŷ Croeso yn Wrecsam
Mae Prosiect Atal Digartrefedd Wrecsam yn darparu:
- Cyngor tai
- Cyngor atal digartrefedd
- Cyngor a chymorth am gamddefnyddio sylweddau
- Cymorth gyda sgiliau byw’n annibynnol
- Cyngor a chymorth am fudd-daliadau
- Help gyda chyllidebu
- Cyngor a chymorth am iechyd a lles
- Gweithgareddau pwrpasol
- Grŵp Cymorth Pwyleg
- Sesiynau Coginio a Bwyta
Mae Prosiect Atal Digartrefedd Wrecsam yn gweithio mewn cydweithrediad gyda Shelter Cymru a gwasanaethau cymorth eraill, er mwyn helpu lleihau ac atal digartrefedd ymhlith y bobl fwyaf bregus sydd yn profi afiechyd meddwl a phroblemau’n camddefnyddio sylweddau.
Prosiect Atal Digartrefedd Wrecsam
Tŷ Croeso
31 Heol Grosvenor
Wrecsam
LL111BT
01978357926
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Mae modd gwneud atgyfeiriadau i’r prosiect drwy eu hatgyfeirio o’r awdurdod Tai lleol neu drwy gysylltu gyda’r swyddfa ar 01978357926 am fwy o wybodaeth.
Adnoddau