Fframwaith Gwasanaeth Byw â Chymorth Iechyd Meddwl

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i anghenion yr unigolyn a Chynllun Cymorth Byw â Chymorth.

Am y prosiect

Mae’r prosiect Gwasanaeth Byw â Chymorth Iechyd meddwl ar gyfer oedolion sydd â diagnosis iechyd meddwl ac am fyw’n annibynnol yn eu cartrefi. Rydym yn cynnig y gwasanaeth unrhyw le yn Sir Benfro.
Mae byw â chymorth yn caniatáu unigolyn i fyw’n annibynnol tra’n sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn cael ei gefnogi yn unol gyda’i anghenion.
Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys:

  • Caniatáu unigolion i gynnal eu tenantiaethau eu hunain a’n lleihau’r risg o ddigartrefedd
  • Hyrwyddo ymgysylltu mewn gweithgareddau pwrpasol o fewn y gymuned leol, gweithgareddau cymdeithasol a’n chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli, hyfforddiant, addysg
  • Ymrymysuo unigolion i ofyn am gymorth a’n helpu atal ail bwl o salwch
  • Yn caniatáu unigolion i fyw’n annibynnol gyda chyn lleied o gymorth ag sydd angen.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Rydym yn cynnig y gwasanaeth byw â chymorth mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Benfro ar hyd a lled Sir Benfro.
Mae modd i chi dderbyn y gwasanaeth drwy gyllid gan eich awdurdod lleol. Mae eich gweithiwr Cymdeithasol neu’r Nyrs Seiciatryddol Gymunedol yn medru eich atgyfeirio at Gyngor Sir Benfro. 
Os mai Adferiad Recovery yw’r darparwr cymorth a ffefrir, byddwn wedyn yn cysylltu gyda’r unigolyn er mwyn trefnu ymweliad, cynllunio sut i ddiwallu anghenion y person a chytuno ar ddyddiad i ddechrau’r cymorth.

Adnoddau