Gwasanaeth Seibiant Pen-y-bont ar Ogwr

Sir:

Pen-y-bont ar Ogwr

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener 09:00 – 17:00

Ffôn:

01792 816600

Am y prosiect

Mae Gwasanaeth Seibiant Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei ddylunio er mwyn cefnogi’r sawl sydd ag afiechyd meddwl, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – drwy ddarparu cymorth un i un drwy’r Rhaglen Adferiad. Yn hyrwyddo ymrymuso ac annibyniaeth y sawl sydd yn derbyn y gofal a lleihau’r angen am rôl y gofalwyr.

Bydd pob gofalwr a’r unigolyn sydd yn derbyn y gofal yn elwa o help holistaidd ac sydd yn ffocysu ar y person er mwyn eu helpu i ddelio gyda’r amgylchiadau unigol ac unigryw y maent yn wynebu. Mae’n darparu mecanweithiau cymorth er mwyn cefnogi gofalwyr a’r sawl sydd yn derbyn gofal i reoli eu hamgylchiadau. Wrth ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth fel eu bod yn medru delio gyda’r materion yma yn well neu’n fwy effeithiol yn y dyfodol. Yn hyrwyddo cynaliadwyedd pellach i rôl person fel gofalwr ac er mwyn rheoli eu lles. Drwy gydol pob un achos, bydd y tîm yn cefnogi pob unigolyn gyda;u galluoedd a’u lefelau o gysur er mwyn darparu mwy neu lai o gymorth fel sydd angen gyda’r hyn sydd angen gwneud.

Bydd y gwasanaeth yn darparu hyn drwy weithio o fewn y ffyrdd canlynol:

  • 12 sesiwn cymorth ar gyfer yr unigolyn sy’n derbyn o gofal o fewn uchafswm o 6 mis
  • Cynnig cymorth o fewn y 12 sesiwn cymorth i’r gofalwr
  • Cymorth gyda Lles Emosiynol
  • Cymorth gyda Lles Corfforol a Meddyliol
  • Cymorth gyda Lles Ariannol
  • Cymorth gyda Llety
  • Cymorth gyda mynediad at Addysg a Hyfforddiant
  • Cymorth yn ymwneud gyda chredoau Ysbrydol, Diwylliannol a Chrefyddol
  • Atgyfeirio at wasanaethau o fewn Pen-y-bont ar Ogwr i ddiwallu anghenion penodol

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Gofalwyr sydd yn derbyn seibiant byr drwy’r gwasanaeth yn cefnogi’r sawl sydd yn derbyn y gofal.

Adnoddau