Newyddion     08/08/2025

Cynllun Grantiau Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad i gael ei Ail-lansio

Cynllun Grantiau Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad i gael ei Ail-lansio

Byddwn, yn fuan, yn ail-lansio’r Cynllun Grantiau Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad (a ariennir gan Lywodraeth Cymru).

Mae gorchwyl y grant wedi ei ehangu ers y rownd ddiwethaf, ac mae nawr wedi ei anelu tuag at grwpiau neu brosiectau sy’n cael eu rhedeg gan neu ar gyfer:

  • Pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru
  • Pobl o gymunedau LHDTC+ yng Nghymru
  • Pobl o gymunedau anabl yng Nghymru

Pwrpas y grant yw i ddatblygu gweithgareddau diwylliannol a chreadigol ar draws Cymru, ac fe all gefnogi prosiectau 6 mis o’r 1af Hydref 2025 hyd 31ain Mawrth 2026.

Mae’n rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, y Cynllun Gweithredu LHDTC+, a Chynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025-2035.

Bydd 3 ffrwd grantiau – Grantiau Bach, Grantiau Canolig a Grantiau Mawr – i gefnogi grwpiau a phrosiectau gyda chyllid refeniw a chyfalaf.

Cyhoeddir y manylion llawn ddydd Gwener,15fed Awst pan fydd ceisiadau yn agor, a bydd ceisiadau yn cau am 5pm ar 15fed Medi.

Cynhelir Gweithdy Grantiau am 11am, ar ddydd Mawrth, 26ain Hydref.