News     05/08/2022

Cadeirydd y Bwrdd Adferiad Recovery yn cael ei sefydlu i’r Orsedd yn Eisteddfod 2022

Cadeirydd y Bwrdd Adferiad Recovery yn cael ei sefydlu i’r Orsedd yn Eisteddfod 2022

Hoffem ddweud llongyfarchiadau anferth i Gadeirydd ein Bwrdd, Clive Wolfendale, sydd heddiw (5ed Awst) wedi’i sefydlu i mewn i Orsedd y Beirdd am ei gyfraniadau i gymdeithas Cymraeg yn yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Hoffem ddweud llongyfarchiadau anferth i Gadeirydd ein Bwrdd, Clive Wolfendale, sydd heddiw (5ed Awst) wedi’i sefydlu i mewn i Orsedd y Beirdd am ei gyfraniadau i gymdeithas Cymraeg yn yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Mae’r Orsedd yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru ac yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif. Prif amcan y mudiad yw datblygu, hyrwyddo a chyfoethogi barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf yng Nghymru a phob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol maent yn cynnal seremoni i anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r Gymraeg a Chymru. Mae Clive wedi’i anrhydeddu eleni am ei gyfraniadau i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ogystal ag i Les Cymdeithasol yng Nghymru.

Dechreuodd Clive ddysgu Cymraeg pan gyrhaeddodd Gymru o Fanceinion fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru. O fewn 2 flynedd roedd o wedi cyflawni lefel A yn y Gymraeg a daeth yn ffigwr blaenllaw ym maes hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith y Sector Cyhoeddus yn ystod ei gyfnod fel Prif Swyddog. Rhwng 2003 – 2022 bu’n Ymddiriedolwr a Thrysorydd y Ganolfan Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn ac yn ei amser hamdden mae’n weithgar iawn ym maes cerddoriaeth Cymru, ac wedi cyfarwyddo nifer o ensembles sydd wedi cystadlu a pherfformio yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd.

Mae Adferiad Recovery wedi’i wreiddio yn y iaith a threftadaeth Cymaeg, y mae Clive wedi chwarae rhan fawr yn ei hyrwyddo, fel Cadeirydd presennol y Bwrdd a thrwy gydol ei gyfnod fel Prif Weithredwr CAIS cyn iddo uno â Hafal a WCADA i ddod yn Adferiad. Yr oedd yr uno yr un mwyaf yn y sector elusennol ar draws y DU gyfan yn 2021 ac mae Adferiad bellach yn un o’r asiantaethau gofal mwyaf yng Nghymru. Mae Clive yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi bod yn rhan o ddatblygiad mor fawr yn y ddarpariaeth lles cymdeithasol yng Nghymru.

Cynhaliwyd anwythiad Clive i’r Orsedd yn eu seremoni flynyddol fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Mynychwyd y seremoni hefyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a oedd hefyd yn cael ei anrhydeddu yn y seremoni eleni ar ran ein holl weithwyr allweddol a gwirfoddolwyr i ddangos gwerthfawrogiad am bopeth a wnaethant dros y genedl yn ystod y pandemig. Enw barddol Clive yw Nodyn Blaidd, gan gyfeirio at ei gyfenw a’i ddiddordeb cerddorol.

Roedd Adferiad Recovery yn falch iawn o allu ymuno â Clive ar gyfer ei ddathliadau heddiw gan fod ei anwythiad yn cyd-fynd â’n digwyddiad ymgyrch “Dynol o Hyd” Sir Ceredigion a gynhaliwyd ar ein stondin ar y Maes. Roeddem wrth ein bodd yn gallu parhau â’r drafodaeth am y stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed ac yn gobeithio parhau i wella canfyddiadau a dealltwriaeth o bobl sy’n cael trafferth gyda dibyniaeth er mwyn helpu i wella lles cymdeithasol cyffredinol yng Nghymru hyd yn oed ymhellach.