Yn Rhagfyr, cyhoeddwyd bod Adferiad Recovery wedi derbyn grant gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog er mwyn helpu ein portffolio ffantastig o bartneriaid i ddarparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr.
Bydd grant Adferiad yn cael ei ddefnyddio er mwyn cydlynu portffolio o brosiectau deinamig a fydd yn defnyddio dulliau gwybodus ar draws Cymru. Byddwn yn sicrhau bod yna lwybrau yn cysylltu gyda’i gilydd sydd yn gweithio’n dda i gyn-filwyr; bod yna lefydd diogel iddynt fynd er mwyn cysylltu gyda’r llwybrau yma; a bod gwirfoddolwyr a staff sydd yn cefnogi cyn-filwyr yn cael mynediad at hyfforddiant ac yn gweithio’n agos gyda mudiadau o fewn y llwybrau hynny sydd ar gael i gynorthwyo gydag iechyd meddwl cyn-filwyr.
Drwy weithio gyda’n portffolio o 11 partner yn genedlaethol ar draws Cymru, ynghyd ag elusennau milwrol eraill yn y trydydd sector, rydym wedi gwneud cynnydd ardderchog hyd yma yn dilyn gweminar llwyddiannus gyda phartneriaid yr wythnos diwethaf.
Drwy’r cyllid sydd wedi ei roi i ni gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym yn gyffrous ein bod yn parhau i gefnogi ein partneriaid elusennol a thrwy ohebiaeth gyson, byddwn yn hyrwyddo a’n rhannu arferion da ymhlith ein gilydd yn y rhwydwaith er mwyn datblygu’r gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf effeithiol i gyn-filwyr.
Hoffem ddiolch o galon i Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog ac i bawb sydd yn rhan o’r bartneriaeth gyffrous hon am eu gwaith hyd yma. Rydym yn disgwyl ymlaen at weithio gyda chi gyd!
Ein 11 partner portffolio yw:
- Woody’s Lodge
- Fighting with Pride
- Icarus online
- Radiate Arts
- Alabare
- VC Galley
- TGP Cymru
- Links Combined Forces
- Byddin yr Iachawdwriaeth
- Défense Medical Welfare
- Mission Motorsport.